7.1 VAR/2019/14 - Cae Eithin, Malltraeth
7.2 FPL/2019/116 – St. David’s, Stryd Athol, Cemaes
7.3 HHP/2019/129 – Ty Arfon, Lôn Refail, Llanfairpwll
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
7.1 VAR/2019/14 - Cais o dan Adran 73A ar gyfer dileu amod (08) (lefel llawr gorffenedig) ac amrywio amod (11) (cynlluniau a ganiatawyd dan gais am y materion a gadwyd yn ôl rhif 15C48J/FR/DA) o ganiatâd cynllunio amlinellol rhif 15C48H (cais amlinellol ar gyfer codi annedd ynghyd âa chreu mynedfa newydd i gerbydau) er mwyn galluogi diwygio gosodiad a dyluniad yr annedd a’r modurdy a ganiatawyd gynt ynghyd â chodi wal amddiffyn llifogydd perimedr newydd yn Cae Eithin, Malltraeth
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.2 FPL/2019/116 – Cais llawn i newid defnydd hen eglwys i fod yn ddwy uned wyliau ynghyd ag addasiadau ac estyniadau yn St. Davids, Stryd Athol, Cemaes
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.3 HHP/2019/129 – Cais llawn i godi garej ar wahân yn Tŷ Arfon, Lôn Refail, Llanfairpwll
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
7.1 VAR/2019/14 - Cais o dan Adran 73A ar gyfer dileu amod (08) (lefel llawr gorffenedig) ac amrywio amod (11) (cynlluniau a ganiatawyd dan gais am y materion a gadwyd yn ôl rhif 15C48J/FR/DA) o ganiatâd cynllunio amlinellol rhif 15C48H (cais amlinellol ar gyfer codi annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau) er mwyn galluogi diwygio gosodiad a dyluniad yr annedd a’r modurdy a ganiatawyd gynt ynghyd â chodi wal amddiffyn llifogydd perimedr newydd yn Cae Eithin, Malltraeth.
Roedd y Cynghorydd Bryan Owen wedi datgan diddordeb personol a diddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais a ddilynodd.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelodau Lleol.
Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf, 2019 fe benderfynwyd cynnal ymweliad safle ac fe wnaed hynny ar 17 Gorffennaf, 2019. Oherwydd nad oedd rhai Aelodau ar gael i fynychu’r ymweliad safle fe benderfynodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, yn ei gyfarfod 24 Gorffennaf 2019, ail ymweld â’r safle ac fe gynhaliwyd ymweliad pellach ar 7 Awst, 2019.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Peter Rogers, Aelod Lleol, at gau cwyn gorfodaeth mewn perthynas â mynediad i’r safle yn 2018 a hynny ar sail addasrwydd ond cododd bryderon fod 5 o'r 6 amod cynllunio wedi eu torri a bod yr annedd eisoes wedi ei hadeiladu ar y safle ac nad oedd mynediad cyfreithlon ar gyfer danfon deunyddiau adeiladu a pheiriannau adeiladu i’r safle. Cyfeiriodd y Cynghorydd Rogers at y gwahaniaethau yn yr uchder, lefel terfynol y llawr a lleoliad yr annedd a’r amodau yn y caniatâd cynllunio gwreiddiol a oedd yn cael effaith ar amwynderau a phreifatrwydd eiddo cyfagos yn yr ardal leol. Cyfeiriodd at y ffaith bod anghysondebau yn adroddiad y Swyddog Cynllunio o ran cyflwyno Tystysgrif A a’i fod yn ystyried bod yr Adran Gynllunio wedi camarwain nifer o gyrff ar adeg cylchredeg y cais Tystysgrif A. Amlygodd y Cynghorydd Rogers fod nifer o gwestiynau, mewn perthynas â’r datblygiad hwn a thorri amodau cynllunio, yn parhau heb eu hateb a gofynnodd i’r Pwyllgor ohirio gwneud penderfyniad ar y cais tan bod ymchwiliadau annibynnol mewn perthynas â’r cais hwn wedi eu cynnal.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un i ddileu amodau i lefel gorffenedig y llawr, lleoliad yr annedd o fewn y plot, cynyddu hyd a lled yr annedd terfynol a chyfeiriadedd diwygiedig y garej ynghyd â chodi wal amddiffyn llifogydd perimedr newydd yng Nghae Eithin, Malltraeth. Amlinellodd hanes cynllunio’r datblygiad a nododd y cyflwynwyd cais yn 2015 am fynediad preifat i’r safle a bu anghytundeb am berchnogaeth y tir ac yn dilyn hynny cafodd y cais ei ‘alw mewn’ am drafodaeth gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Cyfeiriodd at yr amrywiaeth o faterion gorfodi ynghlwm â’r cais hwn dros nifer o flynyddoedd a phryderon a fynegwyd nad yw’r Awdurdod Cynllunio wedi cymryd camau gorfodi; mae’r cais sydd gerbron y cyfarfod hwn yn ganlyniad i brosesau gorfodi yr ymgymerwyd â nhw ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7