5 Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 801 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Tachwedd, 2019 hyd at Mehefin, 2020 gyda’r newidiadau ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Tachwedd, 2019 a Mehefin 2020 i’w ystyried a nodwyd y newidiadau canlynol –
• Eitemau Newydd
• Eitem 7 – Newidiadau i’r Cyfansoddiad er mwyn adlewyrchu’r ailstrwythuro mewnol (ar gyfer cyfarfod 25 Tachwedd, 2019)
• Eitem 9 – Ysgogiad Economaidd Llywodraeth Cymru (ar gyfer cyfarfod 25 Tachwedd, 2019)
• Eitem 10 – Cyflwyno Galw Gofal – Costau Cyswllt Gofal ar gyfer Tenantiaid Tai Cyngor (cadarnhad o’r cynigion a chymeradwyaeth er mwyn cynnal gwaith ymgysylltu)(ar gyfer cyfarfod 25 Tachwedd, 2019)
• Eitem 34 – Cyflwyno Galw Gofal – Costau Cyswllt Gofal ar gyfer Tenantiaid Tai Cyngor (canlyniadau’r ymgysylltiad a chymeradwyo’r polisi) (ar gyfer cyfarfod 27 Ebrill, 2020)
• Eitemau sydd wedi eu Gohirio
• Eitem 8 – Bid Twf Gogledd Cymru – i’w ail drefnu, dyddiad i’w gadarnhau
• Eitem 11 – Cyllideb 2020/21 (cynigion cychwynnol drafft ar gyfer ymgynghoriad) – I’w ystyried gan bwyllgor arbennig o’r Pwyllgor Gwaith i’w gynnal ar 23 Rhagfyr, 2019.
• Eitem 32 – Archwiliad CIW o Wasanaethau Plant yn Ynys Môn (adroddiad cynnydd 6 mis ar y Cynllun Gwella) – i’w ail drefnu ar ddyddiad i’w gadarnhau yn dilyn argymhellion y 2 bwyllgor sgriwtini ar amserlennu’r 3 phanel sgriwtini (yn cynnwys y Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol).
Nododd y Pwyllgor Gwaith bod y cynigion cychwynnol ar gyfer Cyllideb 2020/21 wedi cael eu gohirio i gyfarfod 23 Rhagfyr oherwydd y llithriant yn amserlen Llywodraeth Cymru gyda chyhoeddiad y setliad drafft cychwynnol ar gyfer llywodraeth leol yn cael ei wneud yn llawer hwyrach nag arfer.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Tachwedd, 2019 hyd at Mehefin, 2020 gyda’r newidiadau ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.