Mater - cyfarfodydd

Annual Monitoring Report - Joint Local Development Plan

Cyfarfod: 28/10/2019 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 8)

8 Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd pdf eicon PDF 5 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd derbyn yr Adroddiad Monitro Blynyddol ar y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd o Awst, 2017 hyd at Mawrth, 2019 a’r casgliadau ynddo ac awdurdodi’r Prif Swyddog Cynllunio i wneud unrhyw newidiadau/diwygiadau a/neu gywiriadau golygyddol terfynol cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref, 2019.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol yn cynnwys yr Adroddiad Monitro Blynyddol ar y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn ymwneud â’r cyfnod rhwng Awst 2017 a Mawrth 2019.  

 

Yn absenoldeb yr Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod angen i’r Cynghorau gyflwyno Adroddiad Monitro Blynyddol ar weithrediad y strategaeth a pholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth o’r flwyddyn flaenorol i Lywodraeth Cymru. Fel arfer, mae angen cyhoeddi’r adroddiad monitro cyntaf erbyn 31 Hydref o’r flwyddyn yn dilyn mabwysiadu’r cynllun datblygu lleol ar y cyd, fodd bynnag, nid oes modd i hyn ddigwydd pan mae llai na 12 mis rhwng dyddiad mabwysiadu’r cynllun a 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol. Gan y mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd ddiwedd Gorffennaf 2017 dyma’r cyfle cyntaf i gyflwyno’r adroddiad monitro blynyddol i Lywodraeth Cymru ar weithrediad y cynllun dros flwyddyn ariannol lawn. Ychwanegodd yr Aelod Portffolio bod yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn darparu crynodeb o berfformiad y Cynllun dros y cyfnod yn erbyn cyfres o ddangosyddion o fewn y Fframwaith Monitro (a nodir ym mhennod 7 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd) a ddefnyddir er mwyn monitro effeithlonrwydd y Cynllun a’i bolisïau. Mae canfyddiadau’r Adroddiad Monitro cyntaf yn dangos bod y dangosyddion hyn, ar y cyfan, yn perfformio yn unol â’r disgwyliadau ac o ganlyniad ei fod yn hapus cynnig yr adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith gyda’r argymhelliad bod y Prif Swyddog Cynllunio yn cael yr awdurdod i wneud y newidiadau golygyddol terfynol, unrhyw ddiwygiadau a/neu gywiriadau i’r adroddiad cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cynllunio bod canfyddiadau allweddol yr Adroddiad Monitro Blynyddol hwn yn gadarnhaol a bod y dystiolaeth a gasglwyd yn dangos bod polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn llwyddo i ddarparu amcanion Strategol y Cynllun. Bydd yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn darparu gwaelodlin tystiolaeth ar y dangosyddion er mwyn gallu cymharu yn y dyfodol, rhywbeth a fydd yn galluogi’r Cyngor i adnabod unrhyw dueddiadau, rhywbeth sy’n bwynt allweddol gan fod hon yn broses ailadroddol a blynyddol dros nifer o flynyddoedd a ddylai adnabod heriau a chyfleoedd ynghyd â dulliau posib ar gyfer adolygu ac addasu polisïau lleol. O ystyried y dystiolaeth a ddarparwyd gan yr Adroddiad Monitro Blynyddol felly, ni ystyrir fod y Cynllun Datblygu ar y Cyd angen ei adolygu’n llawn na’n rhannol ar hyn o bryd a hynny am y rhesymau a nodwyd. Mae polisïau’r Cynllun yn cael eu gweithredu yn unol â’r disgwyliadau ac mae’r Cynllun yn cyflawni ei amcanion ar hyn o bryd.   

 

Adroddodd y Cynghorydd G.O.Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, ar drafodaethau’r Pwyllgor ar y mater hwn yn ei gyfarfod 24 Hydref, 2019. Nododd fod y Pwyllgor wedi trafod pwysigrwydd y fframwaith monitro a’r Adroddiad Monitro Blynyddol o ran asesu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8