Mater - cyfarfodydd

Draft National Development Framework

Cyfarfod: 28/10/2019 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 10)

10 Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Drafft pdf eicon PDF 873 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd

 

·                    Cymeradwyo’r llythyr ynghlwm gan gynnwys Atodiad A fel ymateb Cyngor Sir Ynys Môn i Ymynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (2020-2040).

·                    Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i’r Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol wneud unrhyw fân newidiadau, amrywiadau neu gywiriadau a nodir ac sy’n rhesymol angenrheidiol cyn cyhoeddi’r ymateb ffurfiol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol, yn cynnwys ymateb drafft Cyngor Sir Ynys Môn i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Drafft ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith. 

 

Yn absenoldeb yr Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, adroddodd y Cadeirydd bod ymateb drafft y Cyngor i’r ymgynghoriad ar gynigion o fewn y Fframwaith Datblygu Lleol wedi’i rannu â holl Aelodau’r Cyngor er gwybodaeth ac ar gyfer eu mewnbwn. Yn ogystal, mae sylwadau wedi eu derbyn gan gynghorau tref a chymuned ac maent wedi eu hanfon ymlaen at y Swyddogion. Mae Arweinwyr y chwe Chyngor yng ngogledd Cymru hefyd yn rhoi ymateb at ei gilydd ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru er mwyn tynnu sylw at fannau lle mae cynigion y Fframwaith yn gwyro oddi wrth ddyheadau’r Bwrdd ar gyfer yr ardal. Dywedodd y Cadeirydd ei bod bellach yn deall bod y dyddiad cau o 1 Tachwedd, 2019 ar gyfer ymateb i’r ymgynghoriad bellach wedi’i ymestyn i 15 Tachwedd 2019 ac ychwanegodd yr hoffai fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Swyddogion y Cyngor am gydlynu’r ymateb ac am ddod â’r wybodaeth at ei gilydd.    

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod ymateb i’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn hynod bwysig gan y bydd yn gosod y cyfeiriad ar gyfer datblygu yng Nghymru rhwng 2020 a 2040; mae’n amlinellu strategaeth ar gyfer mynd i’r afael â blaenoriaethau cenedlaethol allweddol drwy’r system gynllunio, yn cynnwys cynnal a datblygu economi ffyniannus, datgarboneiddio, datblygu ecosystemau gwydn a gwella iechyd a llesiant cymunedau. Mae’n gynllun gofodol ac mae’n rhan o’r haen uchaf o gynlluniau datblygu sy’n canolbwyntio ar faterion a heriau ar raddfa genedlaethol. Mae’r Cyngor felly’n croesawu’r cyfle i wneud sylwadau ar y Fframwaith ac er ei fod yn cefnogi’r egwyddor o greu Fframwaith o’r fath, mae ganddo bryderon ac amheuon difrifol mewn perthynas â nifer o themâu a pholisïau yn y Fframwaith Datblygu Drafft, yn enwedig mewn perthynas â’r canlynol -    

 

           Cydnabod y Prosiectau o Arwyddocâd Cenedlaethol Presennol (NSIP) - mae’r Cyngor o’r farn nad yw’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC) drafft yn rhoi digon o gydnabyddiaeth i brosiectau megis Wylfa Newydd a National Grid na gallu ynni niwclear i gwrdd â thargedau allyriadau. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y prosiectau hyn i dwf economaidd Ynys Môn a gogledd orllewin Cymru yn y dyfodol ac mae angen i hynny gael ei adlewyrchu yn y FfDC.  

           Agwedd tuag at Ynni Carbon Iselmae agwedd y FfDC drafft tuag at ynni carbon isel yn rhy gul gan ganolbwyntio’n ormodol ar ddatblygiadau gwynt a solar. Mae dynodiad mwyafrif yr Ynys fel ardal flaenoriaeth ar gyfer ynni gwynt a solar o bryder sylweddol ac mae’n annerbyniol. Mae’r Cyngor yn gwrthwynebu’r dynodiad hwn am nifer o resymau gan gynnwys materion yn ymwneud â’r isadeiledd sydd ei angen er mwyn cynnal datblygiadau o’r fath.    

           Ardaloedd Twf Rhanbarthol - mae’r Cyngor  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10