Mater - cyfarfodydd

Applications that will be Deferred

Cyfarfod: 01/07/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 6)

6 Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio pdf eicon PDF 1 MB

6.1  FPL/2019/223 – Pen-Wal Bach, Pen Lon, Niwbwrch

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000Jt1YBUAZ/fpl2019223?language=cy

 

6.2 19C1231 – Stâd Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G5800000HzFxcEAF/19c1231?language=cy

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

6.1       FPL/2019/223 – Cais llawn i newid defnydd a wneir o dir amaethyddol er mwyn sefydlu  safle gwersylla tymhorol i bebyll ar dir ger Pen-Wal Bach, Pen Lôn, Niwbwrch.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a nodwyd.

 

6.2       19C1231 – Cais amlinellol ar gyfer codi 32 o anheddau marchnad agored a 4 annedd fforddiadwy, adeiladu mynediad newydd i gerbydau a cherddwyr, darparu man chwarae a mannau agored ynghyd â manylion llawn mynediad a gosodiad ar dir ger Stad Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a nodwyd.

Cofnodion:

6.1       FPL/2019/223 – Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol yn faes gwersylla pebyll tymhorol ar dir ger Pen-Wal Bach, Pen Lon, Niwbwrch

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cynlluniau gwreiddiol yn cynnwys un fynedfa yn uniongyrchol i’r A4080 a bod yr Awdurdod Priffyrdd wedi gwrthwynebu hynny. Erbyn hyn cyflwynwyd cynlluniau diwygiedig sy’n cynnig mynedfa ychwanegol i gerbydau i’r briffordd gyhoeddus i’r gorllewin er mwyn goresgyn y gwrthwynebiad. Mae swyddogion angen cyfle i asesu oblygiadau’r newid hwn, ac mae hefyd angen ei ail hysbysebu. Mae cyfyngiadau cyfredol Covid-19 wedi oedi hyn. Felly, yr argymhelliad yw bod y cais yn cael ei ohirio.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhellion y swyddog am y rhesymau a nodwyd.

 

6.2       19C1231 – Cais amlinellol ar gyfer codi 32 annedd marchnad a 4 annedd fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, darparu man chwarae a mannau agored ynghyd â manylion llawn y fynedfa a’r gosodiad ar dir ger Stad Cae Rhos, Lôn Porthdafarch, Caergybi

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Asesiad Trafnidiaeth o’r ardal wedi cael ei gomisiynu mewn ymateb i bryderon lleol am lif trafnidiaeth a chapasiti y rhwydwaith ffyrdd yng nghyffiniau’r cynnig i gymryd y traffig ychwanegol fyddai’n cael ei gynhyrchu. Erbyn hyn mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi dod i’r casgliad bod y cynnydd mewn traffig o’r datblygiad arfaethedig yn sylweddol ar briffordd lle mae perygl eisoes yn bodoli’n ac nad yw’n dderbyniol oni wneir gwelliannau i leihau’r perygl hwn. Mae’r ymgeisydd wedi gwneud cais i ohirio er mwyn cael mwy o amser i gynnal trafodaethau pellach gan fod gwelliannau’n cael eu cynnig fel rhan o’r datblygiad arfaethedig, drwy ffurfioli’r mannau pasio ar ochr orllewinol Lôn Porthdafarch, ac y gellid cyflawni hynny drwy amod cynllunio. O’r herwydd, yr argymhelliad yw gohirio’r cais i ganiatáu cynnal trafodaeth bellach.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a nodwyd.