Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 01/07/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 2 MB

12.1  HHP/2020/37 – Y Bwthyn, Llanddaniel

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000Izfh2UAB/hhp202037?language=cy

 

12.2  FPL/2020/71 – Ysgol Gyfun Llangefni, Ffordd Cildwrn, Llangefni

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MffKUUAZ/fpl202071?language=cy

 

12.3  FPL/2020/70 – Ysgol Llanfawr, Caergybi

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MffEMUAZ/fpl202070?language=cy

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1    HHP/2020/37 – Cais llawn i godi garej breifat yn Y Bwthyn, Llanddaniel

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2    FPL/2020/71 – Cais llawn am estyniad sy'n cynnwys lifft yn Ysgol Gyfun Llangefni, Ffordd Cildwrn, Llangefni

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a chyda’r  amodau cynllunio a restrir ynddo.

 

12.3    FPL/2020/70 – Cais llawn am estyniad sy'n cynnwys lifft platfform yn Ysgol Llanfawr, Caergybi

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a chyda’r  amodau cynllunio a restrir ynddo ynghyd ag amod ychwanegol mewn perthynas â draenio dŵr

Cofnodion:

12.1    HHP/2020/37 – Cais llawn i godi modurdy newydd i ddefnydd preifat yn Y Bwthyn, Llanddaniel

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am i Aelod Lleol ei alw i mewn i’r Pwyllgor ei ystyried gan y credir ei fod yn cydymffurfio â pholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams ei fod yn sylweddoli yn awr ei fod yn adnabod yr ymgeisydd ac na fyddai’n cymryd rhan yn y drafodaeth nac yn pleidleisio ar y cais.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod hwn yn gais ôl-weithredol i gadw modurdy preifat yn Y Bwthyn, Llanddaniel. Mae’r ymgeisydd yn cadarnhau fod yr adeilad at ddefnydd preifat a bod ei angen i gadw cerbydau clasurol a fan wersylla fawr sy’n eiddo i’r ymgeisydd. Mae safle’r cais wedi’i leoli yn yr Ardal Tirwedd Arbennig; mae maint, uchder ac edrychiad yr adeilad dan sylw yn ddiwydiannol ac yn nodweddiadol o adeiladau y gellir eu gweld ar ystadau diwydiannol. Yn ogystal, mae’n uwch na’r prif annedd a elwir yn Y Bwthyn ac mae arwynebedd y llawr yn fwy. Er nad oes gwrthwynebiad i egwyddor y datblygiad, barn y Swyddog yw nad yw’n cyd-fynd â’i gyd-destun, oherwydd ei edrychiad diwydiannol, ei uchder a’i faint, ac nid yw’n cyd-fynd â chymeriad y safle nac yn ei wella,  felly mae’n groes i Bolisi Strategol PS5, Polisi PCYFF1 a Pholisi PCYFF 3 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Ar y sail honno, yr argymelliad yw gwrthod y cais. Derbyniwyd un llythyr yn gwrthwynebu’r cynnig sydd yn nodi maint, edrychiad a lleoliad fel rhesymau dros wrthwynebu.

 

Siaradodd y Cynghorydd Eric Wyn Jones, Aelod Lleol, o blaid y cais a dywedodd mai’r mater allweddol yw a ydi’r cynnig yn cydymffurfio â pholisïau’r CDLlC. Roedd o’r farn fod y modurdy wedi ei leoli’n addas o fewn ac ymysg yr anheddau eraill ar y ddwy ochr ac, gan ei fod yn cael ei guddio’n dda gan goed a llwyni, nid oes modd ei weld o’r lôn. Mae busnes bysiau a thacsis masnachol yn cael ei redeg gerllaw sy’n â sied gynnal a chadw fawr ar gyfer cerbydau. Mae’r cais ar gyfer modurdy ac nid adeilad masnachol a bydd yn eistedd yn daclus yn ei gornel heb ymyrryd ag unrhyw un. Oherwydd bod gan yr ymgeisydd ddiddordeb mewn cerbydau clasurol mae’r lleoliad yng nghefn gwlad yn hanfodol i’r cynnig ac mae’n cael ei gefnogi gan Bolisi PCYFF1. Cyfeiriodd y Cynghorydd Eric Jones hefyd at Bolisïau PCYFF2, PCYFF3, AMG2 a Pholisi Cynllunio Cymru ac esboniodd sut yr oedd yn credu bod y polisïau hynny’n cefnogi’r datblygiad arfaethedig o ran lleoliad, cynaliadwyedd a pharchu cymeriad yr ardal o’i amgylch. Oni bai ei fod yn credu hynny ni fyddai wedi galw’r cais i mewn, ac ni fyddai’n ei gefnogi. Mae’r cynnig yn cwrdd â’r gofynion angenrheidiol; mae angen y modurdy i warchod y cerbydau sydd â gwerth hanesyddol yn ogystal ag ariannol iddynt. O’r herwydd, cynigiodd bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn groes i argymhellion y Swyddogion.

 

Roedd y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12