13.1 LBC/2020/1 – Goleudy Trwyn Du, Penmon
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000Iy1OnUAJ/lbc20201?language=cy
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
13.1 LBC/2020/1 – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer mynediad newydd, signal niwl newydd a phaneli solar newydd yng Ngoleudy Trwyn Du, Penmon.
Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a'i gynnwys er gwybodaeth
Cofnodion:
13.1 LBC/2020/1 – Caniatad Adeilad Rhestredig ar gyfer mynedfa newydd, signal niwl newydd a phaneli solar newydd yng Ngoleudy Trwyn Du, Penmon
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion er gwybodaeth er mwyn adrodd ar gamgymeriad gweithdrefnol wrth benderfynu ar gais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer mynedfa newydd, signal niwl newydd a phaneli solar newydd yng Ngoleudy Trwyn Du, Penmon.
Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio fod cais Adeilad Rhestredig wedi cael ei gymeradwyo gan Swyddogion y Swyddogaeth Cynllunio o dan bwerau dirprwyedig er ei fod wedi cael ei alw i mewn gan ddau Aelod Lleol yn wreiddiol. Er bod un o’r Aelodau wedi cytuno i dynnu’r cais galw i mewn yn ôl, ni ofynnwyd i’r Aelod arall dynnu ei gais yn ôl a chafodd y cais ei gymeradwyo gan Swyddogion o dan bwerau dirprwyedig ar 15 Ebrill, 2020 a chyhoeddwyd yr hysbysiad o benderfyniad ar yr un diwrnod. Ar ôl darganfod y camgymeriad gwnaed cais ôl-weithredol ar 4 Mai, 2020 i’r Aelod Lleol arall ond cafodd ei wrthod. Cadarnhaodd cyngor cyfreithiol fod y penderfyniad yn sefyll oni bai ei fod yn cael ei herio a’i wrthdroi yn y Llys.
Yn dilyn hynny, cynhaliwyd adolygiad o weithdrefnau galw i mewn ac mae’r adroddiad yn cynnwys crynodeb o’r canfyddiadau. Cynhaliwyd archwiliad hefyd o geisiadau galw i mewn yn ystod y 12 mis diwethaf a ddatgelodd nad oedd unrhyw geisiadau eraill a alwyd i mewn wedi cael eu penderfynu o dan bwerau dirprwyedig heb gael trafodaeth ymlaen llaw gyda’r Aelodau Lleol a’u cytundeb. Mae canfyddiadau’r adolygiad yn awgrymu bod y methiant i ymateb i gais galw i mewn yr Aelod Lleol wedi digwydd oherwydd camgymeriad dynol. Er mwyn gwella cadernid y prosesau fel nad yw hyn yn digwydd eto, gweithredwyd y camau a restrir yn y tabl a gynhwysir yn yr adroddiad.
Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a’i gynnwys, er gwybodaeth.