Mater - cyfarfodydd

Departure Applications

Cyfarfod: 05/08/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 10)

10 Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 2 MB

10.1 – VAR/2020/14 - Neuadd, Cemaes

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000M6rguUAB/var202014?language=cy

 

10.2 – 18C223M/VAR – Caerau, Llanfairynghornwy

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G5800000HzHJ6EAN/18c223mvar?language=cy

 

10.3 – VAR/2020/15 – Tithe Barn, Henblas, Bodorgan

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000M6snOUAR/var202015?language=cy

 

10.4 –VAR/2020/28 - Garreg Fawr, Lôn Garreg Fawr, Trearddur

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MffCLUAZ/var202028?language=cy

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

10.1      VAR/2020/14 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (Cynlluniau cymeradwy) o caniatâd cynllunio rhif VAR/2019/9 (Newid yr adeilad allanol i annedd) er mwyn newid deunydd y to o baneli metel i lechi yn Neuadd, Cemaes

 

PENDERFYNWYD caniatau’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar amodau sydd wedi eu rhestru o fewn yr adroddiad ysgrifenedig.    

 

10.2      18C223M/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amodau (02) (manylion draenio) a (06) (manylion man pasio) o ganiatâd cynllunio rhif 18C223C (newid adeiliadau allanol i 8 bwthyn gwyliau) er mwyn cyflwyno gwybodaeth ar ôl dechrau datblygiad yn Caerau, Llanfairynghornwy

 

PENDERFYNWYD caniatau’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar amodau sydd wedi eu rhestru o fewn yr adroddiad ysgrifenedig.   

 

10.3      VAR/2020/15 – Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (03)(Bydd y datblygiad a ganiateir dan y caniatad yn cael ei weithredu yn unol a'r cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif 36C49H (Newid defnydd ysgubor yn annedd, addasiadau ac estyniadau i'r hen fwthyn diffaith i mewn i garej ynghyd â gosod tanc septig) er mwyn diwygio dyluniad yn Tithe Barn, Henblas, Bodorgan

 

PENDERFYNWYD caniatau’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar amodau sydd wedi eu rhestru o fewn yr adroddiad ysgrifenedig.   

 

10.4      VAR/2020/28 – Cais o dan Adran 73A ar gyfer amrywio amod (05) (disgrifiadau deunyddiau) (06) (disgrifiadau ffensys a waliau) (07) (Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu) o gais cynllunio 46C410H a'r dir cyfagos I Garreg Fawr, Lôn Garreg Fawr, Bae Trearddur.

 

PENDERFYNWYD caniatau’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar amodau sydd wedi eu rhestru o fewn yr adroddiad ysgrifenedig.   

Cofnodion:

10.1  VAR/2020/14 – Cais dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (Cynlluniau wedi’u Cymeradwyo) o ganiatâd cynllunio rhif VAR/2019/9 (Newid yr adeilad allanol i annedd) er mwyn newid deunydd y to o baneli metel i lechi yn Neuadd, Cemaes

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i fryd ar ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y gwneir y cais dan Adran 73 mewn perthynas â newid y deunydd to a gymeradwywyd o fetel i lechi naturiol. Ystyrir fod y newid hwn yn dderbyniol ac y bydd yn welliant cyffredinol i’r cynllun a gymeradwywyd. Fodd bynnag, ers mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, caniateir trosi adeiladau traddodiadol i’w defnyddio fel eiddo preswyl dim ond os oes tystiolaeth na fyddai’n bosib defnyddio’r adeilad ar gyfer cyflogaeth a’i fod yn darparu uned fforddiadwy ar gyfer angen lleol. Mae’r cais yn groes i Bolisi TAI 7 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Fodd bynnag, mae sefyllfa wrth gefn yn bodoli gan fod caniatâd cynllunio eisoes yn bodoli i drosi’r adeilad allan yn annedd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes fod y cais yn cael ei gymeradwy ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2  18C223M/VAR – Cais dan Adran 73 i ddiwygio amodau (02) (manylion draenio) a (06) (manylion man pasio) o ganiatâd cynllunio rhif 18C223C (newid adeiladau allanol yn 8 bwthyn gwyliau) er mwyn cyflwyno gwybodaeth ar ôl dechrau datblygiad yn Caerau, Llanfairynghornwy

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i fryd ar ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn groes i Bolisi TAI 7 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Fodd bynnag, y sefyllfa wrth gefn yw bod digon o amser ar ôl i weithredu’r caniatâd ac mae ymgyngoreion perthnasol yn ystyried bod y manylion a gyflwynwyd yn dderbyniol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig

 

10.3  VAR/2020/15 – Cais dan Adran 73 i amrywio amod (03) (bydd y datblygiad yn cael ei wneud yn unol â’r cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif 36C49H (Newid defnydd ysgubor yn annedd, addasu ac ymestyn yr hen fwthyn diffaith a’i newid yn garej ynghyd â gosod tanc septig) er mwyn diwygio’r dyluniad yn Tithe Barn, Henblas, Bodorgan.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i fryd ar ei  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10