Mater - cyfarfodydd

Development Proposals Submitted by Councillors and Officers

Cyfarfod: 05/08/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 11)

11 Cynigion Datblygu a Gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

11.1      HHP/2020/82 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu, codi anecs ynghyd a estyniad i'r cwrtil yn Erw Goch, Brynsiencyn.

 

PENDERFYNWYD caniatau’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar amodau sydd wedi eu rhestru o fewn yr adroddiad ysgrifenedig.   

 

11.2      OP/2019/17 – Cais amlinellol ar gyfer codi 30 annedd yn cynnwys manylion llawn o gosodiad a mynedfa yn Tre Angharad, Bodedern.

 

PENDERFYNWYD caniatau’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar amodau sydd wedi eu rhestru o fewn yr adroddiad a chytundeb cyfreithiol Adran 106 fel a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

11.3      FPL/2020/73 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn cynnwys anecs, estyniad i'r cwrtil ynghyd a creu mynedfa amaethyddol newydd yn Parciau, Llanddaniel

 

PENDERFYNWYD caniatau’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar amodau sydd wedi eu rhestru o fewn yr adroddiad ysgrifenedig.   

 

 

Cofnodion:

11.1  HHP/2020/82 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu, codi anecs ynghyd ag estyniad i’r cwrtil yn Erw Goch, Brynsiencyn

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i Aelod Lleol ac yn cael ei gyflogi gan yr Awdurdod Lleol. Mae’r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais yn unol â’r gofynion dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Ar ôl datgan diddordeb sy’n rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd Eric W Jones y cyfarfod ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth na’r bleidlais ar y cais.

 

Adroddodd y Rheolwr Cynllunio - Amgylchedd Adeiledig a Naturiol, y bydd yr estyniad arfaethedig i’r eiddo’n darparu anecs ar ran gogleddol a dwyreiniol yr annedd bresennol ac yn golygu ymestyn y cwrtil presennol i’r cae cyfagos y mae’r ymgeiswyr yn berchen arno. Er mwyn lliniaru effaith colli gwrych, bydd rhaid i’r datblygwr gyflwyno cynllun plannu ac wedyn rheoli’r gwrych newydd fydd yn sgrinio i leihau unrhyw effaith weledol ac yn darparu buddion bioamrywiaeth. Cyflwynwyd cynllun rheoli traffig gyda’r cais sy’n cadarnhau y trefnir bod nwyddau’n cael eu danfon i’r safle rhwng 9.00am a 3.00pm er mwyn osgoi amseroedd pan fo plant yn cyrraedd a gadael yr ysgol gynradd gyfagos. Y bwriad yw i’r ymgeiswyr symud i fyw i’r anecs arfaethedig ac y byddai eu merch a’i theulu’n symud i’r brif annedd. Mae gan wyres yr ymgeisydd anghenion arbennig ac mae’r ymgeiswyr yn cynorthwyo i ddarparu gofal bob dydd iddi ac yn cynorthwyo rhieni’r plentyn. Mae dyluniad a lleoliad y datblygiad yn dderbyniol dan bolisïau cynllunio ac mae’n debyg o ran maint i’r eiddo cyfagos.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts fod y Cyngor Cymuned lleol yn cefnogi’r cais a chynigiodd fod y cais yn cael ei gymeradwyo gyda’r amodau yn adroddiad ysgrifenedig y Swyddog. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.2  OP/2019/17 – Cais amlinellol ar gyfer codi 30 annedd yn cynnwys manylion llawn y gosodiad a’r fynedfa yn Tre Angharad, Bodedern

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn swyddog perthnasol. Mae’r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais yn unol â’r gofynion ym mharagraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Darllenwyd llythyr gan asiant yr ymgeisydd yn cefnogi’r cais, fel a ganlyn:-

 

‘Mae’r cynnig yma yn gais amlinellol ar gyfer codi 30 annedd ynghyd â manylion y fynedfa i’r safle sydd wedi’i leoli o fewn ffin ddatblygu Bodedern ac yn rhan o ddyfarniad tai T33 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Bydd chwech o’r anheddau arfaethedig yn gartrefi fforddiadwy ac mae’r Gwasanaeth Tai wedi cadarnhau eu bod yn diwallu’r angen a nodwyd. Yn ogystal â’r angen cyffredinol am dai fforddiadwy, trefnodd Hwylusydd Tai Gwledig y Cyngor ddigwyddiad ym Modedern ar 29 Ionawr 2020 fel rhan o arolwg o’r angen am dai fforddiadwy yn y pentref. Galwodd nifer o drigolion lleol yn y digwyddiad ac fe wnaethant gadarnhau bod galw sylweddol am  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11