Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 05/08/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 2 MB

12.1 – VAR/2020/37 -  Clwb a Siop, Canolfan Hamdden Cae Annar, Ffordd Kingsland, Caergybi

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MgBnKUAV/var202037?language=cy

 

12.2 – VAR/2020/24 - A5025 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali i’r Orsaf Bwer yng Nghemaes

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000IwgyiUAB/var202024?language=cy

 

12.3 – FPL/2020/29 – 24 – 99 Maes Llwyn, Amlwch

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000M6rh9UAB/fpl202029?language=cy

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1       VAR/2020/37 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (01) o caniatad   cynllunio rhif 19C845J/VAR (Lleoli clwb a siop dros dro) ar gyfer adnewyddu y caniatad am 5 mlynedd pellach yn Clubroom and Club Shop, Canolfan Hamdden Cae Annar, Ffordd Kingsland, Caergybi

 

PENDERFYNWYD caniatau’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar amodau sydd wedi eu rhestru o fewn yr adroddiad ynghyd â chywiriad i’r dyddiad yn amod (01) a ddylai ddarllen ‘y tir i gael ei roi yn ôl i’w gyflwr blaenorol erbyn 30/9/2025).

 

12.2      VAR/2020/24 – Cais Adran 73 i amrywio amod (01) (Terfyn Amser) o gais 27C106E/FR/ECON (Cais llawn I wella’r briffordd gyfredol (yr A5025) rhwng y gyffordd ar yr A5 i’r dwyrain o’r Fali i’r Gyffordd wrth y Ffordd Fynediad i’r Orsaf Bwer arfaethedig mewn wyth o leoliadau ar wahân ynghyd ag ailadeiladu a lledu’r pafin presennol a’r gorffenwaith ar yr arwynebedd mewn mannau, gweithredu compownd adeiladu dros dro gan gynnwys cyfleuster dros dro ar gyfer ailgylchu pafinau, creu dau bwll teneuo a mynedfa ar gyfer cynnal a chadw, creu llwybrau beicio a gwyro rhai eraill am gyfnod dros dro, creu cyfleusterau parcio eraill yn sgil colli cilfan ynghyd â gwaith cysylltiedig arall gan gynnwys draenio, trin ffiniau, plannu, gosod arwyddion newydd a marciau ar hyd yr) er mwyn ymestyn cyfnod gweithredu’r datblygiad am dair blynedd arall (hyd at 13 Gorffennaf 2023) ar hyd yr A5025 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali.

 

PENDERFYNWYD caniatau’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar amodau sydd wedi eu rhestru o fewn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3      FPL/2020/29 – Cais llawn i newid defnydd o dir agored amwynder i fod yn lecyn chwarae i blant ynghyd â gosod cyfarpar chawarae ar dir ger 24 to 99 Maes Llwyn, Amlwch

 

PENDERFYNWYD caniatau’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar amodau sydd wedi eu rhestru o fewn yr adroddiad ysgrifenedig.  

 

 

Cofnodion:

12.1   VAR/2020/37 - Cais dan Adran 73 i amrywio amod (01) o ganiatâd cynllunio rhif 19C845J/VAR (lleoli clwb a siop dros dro) ar gyfer adnewyddu’r caniatâd am 5 mlynedd arall yn y Tŷ Clwb a Siop y Clwb, Canolfan Hamdden Cae Annar, Ffordd Kingsland, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir yn eiddo i’r Awdurdod Lleol.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais ar gyfer ymestyn y caniatâd ar gyfer lleoli’r portacabin a gymeradwywyd eisoes am 5 mlynedd arall. Mae’r caban presennol wedi’i leoli ar dir y clwb pêl droed. O dan y caniatâd cynllunio presennol bydd rhaid symud y caban oddi ar y safle erbyn 31 Gorffennaf, 2021. Ystyrir bod y cais yn cydymffurfio â gofynion Polisi ISA2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, sydd yn annog cyfleusterau cymunedol. Ychwanegodd y dylai cywiriad i ddyddiad amod (01) yn yr adroddiad ysgrifenedig ddarllen ‘adfer y tir i’w gyflwr blaenorol erbyn 30/9/2025’.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

PENDERFYNWYD caniatau’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u rhestru yn yr adroddiad, ynghyd â chywiriad i’r dyddiad yn amod (01) a ddylai ddarllen ‘adfer y tir i’w gyflwr blaenorol erbyn 30/9/2025).

 

12.2  VAR/2020/24 – Cais dan Adran 73 i amrywio amod (01) (Terfyn Amser) o gais 27C106E/FR/ECON (Cais llawn i wella’r briffordd gyfredol (yr A5025) rhwng y gyffordd ar yr A5 i’r dwyrain o’r Fali i’r Gyffordd wrth y Ffordd Fynediad i’r Orsaf Bŵer arfaethedig mewn wyth o leoliadau ar wahân ynghyd ag ailadeiladu a lledu’r pafin presennol a’r gorffenwaith ar yr arwynebedd mewn mannau, gweithredu compownd adeiladu dros dro gan gynnwys cyfleuster dros dro ar gyfer ailgylchu pafinau, creu dau bwll teneuo a mynedfa ar gyfer cynnal a chadw, creu llwybrau beicio a gwyro rhai eraill am gyfnod dros dro, creu cyfleusterau parcio eraill yn sgil colli culfan ,ynghyd â gwaith cysylltiedig arall gan gynnwys draenio, trin ffiniau, plannu, gosod arwyddion newydd a marciau ffordd) er mwyn ymestyn cyfnod gweithredu’r datblygiad am dair blynedd arall (hyd at 13 Gorffennaf 2023) ar hyd yr A5024 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali i Orsaf Bŵer Cemaes.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cynnwys tir y mae Cyngor Sir Ynys Môn yn berchen arno.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio fod y cynnig ar gyfer amrywio Amod (01) cais cynllunio 7C106E/FR/ECON i ymestyn cyfnod gweithredu’r datblygiad am 3 blynedd arall (hyd at 13 Gorffennaf, 2023). Gohiriwyd Prosiect Wylfa Newydd ar 17 Ionawr, 2019 ac o’r herwydd nid yw’r ymgeisydd wedi gallu gweithredu’r caniatâd cyn iddo ddod i ben ar 13 Gorffennaf 2020. Disgwylir i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wneud penderfyniad ar Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) Wylfa Newydd ar 30 Medi 2020. Os caniateir y DCO ar 30 Medi, 2020, bydd gan yr ymgeisydd 6 mlynedd i weithredu’r caniatâd. Mae Strategaeth Fesul  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12