8 Cartrefi'r Awdurdod Lleol ar gyfer Pobl Hyn - Pennu'r Ffi Safonol PDF 318 KB
I gyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion dros dro.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Gohirio cynyddu’r ffioedd i gost llawn y gwasanaeth am flwyddyn arall, a
· Bod y ffi llawn a godir fesul preswylydd yr wythnos ar gyfer cartrefi’r Awdurdod yn cael ei osod ar £754.36 yr wythnos.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Oedolion mewn perthynas â phennu lefel Tâl Safonol yr Awdurdod ar gyfer cartrefi gofal yr awdurdod lleol am y flwyddyn Ebrill, 2020 i Fawrth, 2021.
Dywedodd y Cadeirydd a'r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod yn ofynnol i Awdurdodau Lleol, o dan Adran 22 o Ddeddf Cymorth Cenedlaethol 1948, bennu’r Tâl Safonol ar gyfer eu cartrefi. Cyfeiriodd at y sail ar gyfer cyfrifo'r Tâl Safonol fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac amlygodd, yn seiliedig ar y tabl ynddo, mai'r amcangyfrif o’r gost wythnosol am y flwyddyn hyd at 31 Mawrth, 2022 yw £786.50. Roedd y Pwyllgor Gwaith wedi gwneud penderfyniad eisoes i gynyddu'r ffioedd yn raddol i adlewyrchu gwir gost y ddarpariaeth, ac i wneud hynny dros gyfnod o 3 blynedd, gyda 2021/22 yn flwyddyn olaf y cynllun. Gosodwyd y ffi ar gyfer 2020/21 ar £722.21 yr wythnos. Argymhelliad yr adroddiad yw, o ystyried mai 2021/22 yw blwyddyn olaf y cynllun 3 blynedd, y dylid pennu’r ffioedd ar lefel sy’n adlewyrchu cost lawn y gwasanaeth h.y. £786.50 yr wythnos.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mai'r ffi safonol yw'r un y mae'n ofynnol i'r Awdurdod ei chodi ar y preswylwyr hynny sydd â'r modd ariannol i dalu cost lawn eu gofal preswyl. Mae'r costau rhedeg ar gyfer 2021/22 wedi cynyddu 1.033%, ond oherwydd lefelau defnydd is, mae'r tâl safonol yn cynyddu 3% neu £26.12 o £760.38 ar gyfer 2020/21 i £786.50 ar gyfer 2021/22. Mae'r Pwyllgor Gwaith wedi ceisio sicrhau, dros gyfnod o dair blynedd, fod y ffioedd a godir ar gleientiaid hunanariannu yn adlewyrchu cost y ddarpariaeth ac i gyflawni hynny yn 2021/22. Fodd bynnag, byddai hynny'n golygu codiad sylweddol yn lefel y ffioedd o £722.21 yr wythnos i £786.50 yr wythnos. Bydd angen i'r Pwyllgor Gwaith ystyried a yw'n dymuno cadw at y polisi 3 blynedd a gweithredu'r cynnydd yn llawn er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhwng ffioedd a chostau yn 2021/22 ynteu a yw'n dymuno ymestyn yr amserlen ar gyfer cyflawni hynny ac os felly, am ba hyd.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mewn ymateb i'r Cadeirydd a'r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol, fod Llywodraeth Cymru wedi codi'r trothwy cynilon ar gyfer talu ffioedd cartrefi gofal gan olygu bod llai o bobl yn cael eu heffeithio; felly byddai'r penderfyniad yn berthnasol i oddeutu 25 neu 30 o unigolion. Eglurodd y Swyddog ymhellach na fyddai ymestyn y cynllun 3 blynedd am flwyddyn ychwanegol fel yr oedd y Cadeirydd a'r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol yn bwriadu ei gynnig fel cam rhesymol o dan yr amgylchiadau, yn cael fawr o effaith ar y Gyllideb ac incwm y gwasanaeth oherwydd y niferoedd a effeithir ac nad yw'n risg ariannol.
Felly cynigiodd y Cadeirydd a'r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol y dylid ymestyn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8