Mater - cyfarfodydd

Medium Term Financial Strategy and Budget 2021/22

Cyfarfod: 01/03/2021 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 10)

10 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2021/22 pdf eicon PDF 733 KB

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd 

 

  • Nodi'r cyfarfodydd ymgynghori ffurfiol ar y gyllideb ac ystyried yr adborth a gafwyd, fel yr amlinellir yn Adran 3 o Atodiad 1 ac Atodiad 2.
  • Cytuno ar fanylion terfynol cyllideb arfaethedig y Cyngor, fel y dangosir yn Adran 9 o Atodiad 1 ac Atodiad 3;
  • Nodi argymhelliad y Swyddog Adran 151 y dylai'r Cyngor fod yn gweithio tuag at sicrhau balansau cyffredinol o £7.3m ar y lleiaf;
  • Nodi'r sylwadau a wnaed gan y Swyddog Adran 151 ar gadernid yr amcangyfrifon, fel y nodir hwy yn Adran 7 o Atodiad 1;
  • Argymell cyllideb net ar gyfer y Cyngor Sir o £147.420m a chynnydd o 2.75% yn lefel y Dreth Gyngor yn sgil hynny (£35.91 - Band D) i gyfarfod o’r Cyngor llawn, gan nodi y bydd penderfyniad ffurfiol, gan gynnwys praeseptau a godir gan Heddlu Gogledd Cymru a Chynghorau Cymuned, yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ar 9 Mawrth 2021;
  • Gwneud addasiadau ar gyfer unrhyw wahaniaethau rhwng y setliad dros dro a'r setliad terfynol trwy ddefnyddio'r gronfa hapddigwyddiadau gyffredinol sydd wedi'i chynnwys yng nghyllideb 2021/22, neu drwy wneud cyfraniad i / o arian wrth gefn cyffredinol y Cyngor er mwyn gosod cyllideb gytbwys;
  • Awdurdodi'r Swyddog Adran 151 i wneud unrhyw newidiadau a all fod yn angenrheidiol cyn cyflwyno'r cynigion terfynol i'r Cyngor;
  • Cytuno y gellir defnyddio'r gyllideb hapddigwyddiadau gyffredinol i gwrdd ag unrhyw bwysau annisgwyl ar gyllidebau a arweinir gan y galw yn ystod y flwyddyn ariannol;
  • Gofyn i'r Cyngor awdurdodi'r Pwyllgor Gwaith i ryddhau hyd at £250k o'r balansau cyffredinol os yw'r gyllideb hapddigwyddiadau gyffredinol wedi'i hymrwymo'n llawn yn ystod y flwyddyn;

·         Dirprwyo grym i'r Swyddog Adran 151 ryddhau cyllid o'r gronfa hapddigwyddiadau gyffredinol, sef hyd at £50k ar gyfer unrhyw eitem unigol. Ni cheir cymeradwyo unrhyw eitem sy'n fwy na £50k heb gytundeb y Pwyllgor Gwaith ymlaen llaw;

·         Cadarnhau bod lefel Premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer ail gartrefi yn aros ar 35% ac yn parhau i fod yn 100% ar gyfer cartrefi gwag.

 

(Bu’r Cynghorydd Ieuan Williams ddatgan diddordeb personol yn yr eitem ac ni gymerodd ran yn y bleidlais yn dilyn hynny).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi'r cynigion manwl ar gyfer y gyllideb refeniw i'w hadolygu a'u  cytuno gan y Pwyllgor Gwaith.  Gofynnwyd i'r Pwyllgor Gwaith wneud argymhellion terfynol i'r Cyngor Llawn a fyddai wedyn yn cymeradwyo cyllideb ar gyfer 2021/22 ac yn pennu lefel y Dreth Gyngor yn ei gyfarfod ar 9 Mawrth, 2021.

 

Datganodd y Cynghorydd Ieuan Williams ddiddordeb personol yn yr eitem ac ni chymerodd ran yn y bleidlais arni.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid fod y cynigion terfynol ar gyfer y gyllideb yn gam olaf y broses hir o osod y gyllideb refeniw cyn iddynt gael eu cyflwyno i'r Cyngor Llawn. Mae'r broses wedi bod yn arbennig o heriol eleni oherwydd yr amserlenni tynn o gofio na dderbyniwyd gwybodaeth am y setliad dros dro tan 21 Rhagfyr, 2020 ac na fyddai'r setliad terfynol yn cael ei gyhoeddi tan 2 Mawrth, 2021. Roedd y setliad dros dro yn well na'r disgwyl ac wedi darparu  £104.825m i'r Cyngor, sef cynnydd o 3.5% mewn termau arian parod ond 3.4% ar ôl ei addasu i lawr ar ôl cymryd i ystyriaeth y grantiau sy'n trosglwyddo i'r setliad ac effaith y newid yn sylfaen y Dreth Gyngor. Nododd y Pwyllgor Gwaith yn ei gynigion cychwynnol ym mis Ionawr y meysydd hynny yr oedd yn awyddus i fuddsoddi ynddynt ac a oedd wedi dod dan bwysau yn ystod y pandemig, gan gynnwys Gwarchod y Cyhoedd a Thechnoleg Gwybodaeth. Gwelodd hefyd angen i ddarparu ar gyfer cyflenwad sgiliau'r Cyngor yn y dyfodol a chynigiodd adfer y Rhaglen Hyfforddeion Proffesiynol. Roedd y cynnig cychwynnol ar gyfer Cyllideb 2021/22 ar 18 Ionawr yn gyllideb refeniw net o £147.531m a oedd yn rhagdybio cynnydd o 3.75% yn y Dreth Gyngor. Dangosodd yr ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion fod mwyafrif yr ymatebwyr yn erbyn y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor ac er bod y Pwyllgor Sgriwtini  Corfforaethol yn ei gyfarfod ar 16 Chwefror wedi cefnogi'r cynigion ar gyfer y gyllideb, roedd lleisiau yn y Pwyllgor a oedd yn dymuno gweld llai o gynnydd yn y Dreth Gyngor os oes modd.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod felly’n falch o adrodd, o ganlyniad i gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, (manylion yn adran 9.1 o’r adroddiad) fod y cynnig ar gyfer y gyllideb derfynol am 2021/22 yn gyllideb refeniw net o £147.420m, a chynnydd is yn y Dreth Gyngor o 2.75% sef yr isaf yng Ngogledd Cymru ac ymhlith yr isaf yng Nghymru.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn rhinwedd ei swydd fel Swyddog Adran 151 fod y cynnig ar gyfer y gyllideb yn gyfreithlon; mae'r gyllideb yn cynnwys  nifer o ragdybiaethau ac amcangyfrifon o ran lefelau tebygol incwm a gwariant yn y dyfodol, sy'n golygu bod nifer o risgiau ariannol cynhenid yn y gyllideb arfaethedig. Amlygir y rhain yn adran 6 yr adroddiad ac maent yn cynnwys y risg y gallai chwyddiant fod yn sylweddol uwch na'r hyn y darperir ar ei gyfer  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10