12 Gweddill y Ceisiadau PDF 1 MB
12.1 – OP/2020/6 Tir ger Stâd Roebuck, Llanfachraeth
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MffC6UAJ/op20206?language=cy
12.2 – FPL/2020/264 –Yr Hen Safle Heliport, Stad Ddiwydiannol Penrhos, Caergybi
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NBhcKUAT/fpl2020264?language=cy
12.3 – FPL/2020/195 – Caffi Sea Shanty, Lon St Ffraid, Bae Trearddur
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000Mj7sXUAR/fpl2020195?language=cy
12.4 – HHP/2020/302 – 38 Lon Conwy, Benllech
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NBi1uUAD/hhp2020302?language=cy
12.5 – MAO/2020/31 – Bryn Meurig, Llangefni
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NBevhUAD/mao202031?language=cy
12.6 – FPL/2020/258 – Parc Garreglwyd, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NBCOPUA5/fpl2020258?language=cy
12.7 – VAR/2020/66 – Yr Hen Ysgol Gynradd, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NAksnUAD/var202066?language=cy
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 OP/2020/6 – Cais amlinellol ar gyfer adeiladu
31 Anheddau Preswyl newydd yn cynnwys
manylion llawn am ffordd ystâd newydd ar
dir gyferbyn â Roebuck Estate,
Llanfachraeth, Caergybi
Mae’r cais wedi’i dynnu’n ôl.
12.2 FPL/2020/264 – Cais llawn ar gyfer codi 8
uned busnes (Dosbarth B1, B2 a B8)
adeiladu ardaloedd tirlunio medal
a chaled ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir
yn yr Hen Safle Hofrennydd, Stad
Ddiwydiannol Penrhos, Penrhos, Caergybi.
Mae’r cais wedi’i dynnu’n ôl.
12.3 FPL/2020/195 – Cais llawn ar gyfer addasu ac
ehangu yn y Sea Shanty Cafe, Lon St Ffraid,
Bae Trearddur.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.4 HHP/2020/302 – Cais llawn ar gyfer addasu
ac ehangu yn 38 Lôn Conwy, Benllech.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol
ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn
amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi
eu cynnwys yn yr adroddiad.
12.5 MAO/2020/31 – Mân newidiadau i gynllun
sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan
ganiatád cynllunio FPL/2019/7 (Codi ysgol
gynradd) er mwyn diwygio’r claddin a
tynnu 2 dosbarth ar dir gyferbyn â Bryn
Meurig, Llangefni
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol
ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn
amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi
eu cynnwys yn yr adroddiad.
12.6 FPL/2020/258 – Cais llawn ar gyfer trosi cwrt
tennis presennol i fod yn arwyneb 3G
synthetig, amnewid y ffens bresennol am
ffens 4.5 metr o uchder ynghyd ag amnewid
y goleuadau presennol am oleuadau LED
newydd ym Mharc Garreglwyd, Ffordd Ynys
Lawd, Caergybi.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol
ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn
amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi
eu cynnwys yn yr adroddiad.
12.7 VAR/2020/66 – Cais o dan Adran 73 i dynnu
amod (10) (Sgrin gwydr aneglur) o caniatâd
cynllunio rhif FPL/2019/134 (Codi 8
rhandy) yn Yr Hen Ysgol Gynradd, Lôn
Pentraeth, Porthaethwy.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i
argymhelliad y Swyddog oherwydd edrych
drosodd annerbyniol i’r eiddo cyfagos
Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor,
gohiriwyd y cais yn awtomatig tan y cyfarfod
nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion
baratoi adroddiad mewn perthynas â’r
rhesymau a roddwyd am ganiatáu’r cais.
Cofnodion:
12.1 OP/2020/6 – Cais amlinellol ar gyfer adeiladu 31 o anheddau preswyl newydd yn cynnwys manylion llawn am ffordd ystâd newydd ar dir gerllaw Ystâd Roebuck, Llanfachraeth
Tynnwyd y cais yn ôl.
12.2 FPL/2020/264 – Cais llawn ar gyfer codi 8 uned fusnes (Dosbarth B1, B2 a B8), ardloedd tirweddu meddal a chaled ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir yn hen Safle Heliport, Ystâd Ddiwydiannol Penrhos, Penrhos, Caergybi
Tynnwyd y cais yn ôl.
12.3 FPL/2020/195 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yng Nghaffi Sea Shanty, Lôn St Ffraid, Bae Trearddur
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cynnwys tir sy'n eiddo i'r Cyngor.
Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod trafodaethau wedi'u cynnal gyda'r ymgeisydd ynglŷn â materion lliniaru ac ecolegol ynghyd â cholli ardaloedd twyni tywod a’r effaith bosibl ar fadfallod. Dywedodd fod Ymgynghorydd Ecolegol ac Amgylcheddol y Cyngor wedi bod mewn trafodaethau gyda'r ymgeisydd ynglŷn â symud rhai o'r twyni tywod gan fod rhwymedigaeth statudol o dan Ddeddf yr Amgylchedd Cymru i gynnal a gwella bioamrywiaeth; fodd bynnag, nid yw'r ymgeisydd yn berchen ar dir digonol i fodloni'r meini prawf. Mae'r ymgeisydd wedi cynnig cynigion lliniaru o dan y decin ar y safle ond nid yw'r Cynghorydd Ecolegol ac Amgylcheddol o'r farn bod y mesurau hynny'n briodol nac yn effeithiol o ran y cais hwn. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, oherwydd y gwrthwynebiad fel y nodwyd gan y Cynghorydd Ecolegol ac Amgylcheddol, mai'r argymhelliad bellach yw gwrthod y cais a bydd angen gohirio'r cais er mwyn caniatáu i Swyddogion baratoi adroddiad ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.
Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith ohirio'r cais ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Robin Williams.
PENDERFYNWYD gohirio'r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.4 HHP/2020/302 – Cais llawn am addasiadau ac estyniadau yn 38 Lôn Conwy, Benllech
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais ar gyfer addasiadau ac estyniadau i'r annedd gan gynnwys codi ystafell haul newydd ac ardal batio newydd yng nghefn yr eiddo. Cafodd y cais ei alw i mewn i'r Pwyllgor gan aelod lleol oherwydd pryderon ynghylch goredrych a cholli preifatrwydd i erddi cyfagos. Dywedodd fod elfen sylweddol o oredrych i erddi cyfagos eisoes gan fod y teras presennol yn uwch a bwriedir gosod amod i ddarparu sgrinio ar ddwy ochr yr ardd.
Cynigiodd y Cynghorydd R O Jones y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd John Griffith.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn ddarostyngedig i'r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.5 MAO/2020/31 - Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio FPL/2019/7 (Codi ysgol gynradd) er mwyn newid y cladin a thynnu 2 ystafell ddosbarth ar dir gyferbyn i Fryn Meurig, Llangefni
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai'r Cyngor Sir yw'r ymgeisydd.
Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12