8 Adroddiad Caffael Llesiant yng Nghymru PDF 484 KB
Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad.
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
• Nodi canfyddiadau’r adroddiad Caffael Llesiant yng Nghymru – Adolygiad o’r modd y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn trwytho caffael yng Nghymru
• Cymeradwyo ymateb y Cyngor i’r argymhellion perthnasol a gyhoeddwyd.
NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Cynllunio Busnes, Rhaglenni a Pherfformiad a oedd yn cynnwys yr argymhellion a nodwyd yn adroddiad Caffael Llesiant yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ym mis Chwefror, 2021 i'w ystyried gan y Pwyllgor. Mae adroddiad Caffael Llesiant yng Nghymru yn amlinellu i ba raddau y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn llywio penderfyniadau comisiynu a chaffael ar draws pob un o'r 44 corff cyhoeddus yng Nghymru.
Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 fod Cyngor Ynys Môn ymhlith sampl o awdurdodau lleol a gymerodd ran yn y gwaith maes ar gyfer yr adroddiad sy'n archwilio sut mae caffael yn cael ei weithredu yn y Cyngor a sut mae gofyniad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cael ei ymgorffori mewn gwaith caffael o ddydd i ddydd. Yn Atodiad 1 ceir ymateb drafft y Cyngor i argymhellion yr adroddiad. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gofyn am weithredu gan Lywodraeth Cymru cyn y gellir eu gweithredu wedyn ar lefel y Cyngor.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth(Adnoddau) a Swyddog Adran 151 fod y Cyngor wedi bod yn adolygu ei drefniadau rheoli contractau gan gynnwys y posibilrwydd o gyflwyno system ffurfiol i reoli'r swyddogaeth hon yn well a'i fod yn ymchwilio i weld pa systemau o'r fath oedd ar gael, eu nodweddion, eu manteision a'u goblygiadau o ran costau a sut y gellir eu hintegreiddio â systemau ariannol presennol y Cyngor. Mae Tîm Caffael y Cyngor hefyd yn cynnal archwiliad o sampl o gontractau i werthuso safon ac ansawdd contractau cyfredol ac i weld a yw'r elfennau rheoli contractau a rheoli perfformiad yn ddigon cadarn a sut y cânt eu monitro a'u gorfodi wedyn. Bydd canfyddiadau'r ddau ddarn hyn o waith yn llywio unrhyw benderfyniadau o ran rheoli contractau yn y dyfodol. Mae Strategaeth Gaffael y Cyngor hefyd yn cael ei hadolygu ac mae'n cael ei datblygu yn barod i'r Cyngor newydd ym mis Mai, 2022 i gyd-fynd â Chynllun Corfforaethol y Cyngor newydd.
Penderfynwyd –
• Nodi canfyddiadau’r adroddiad Caffael Llesiant yng Nghymru – Adolygiad o’r modd y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn llywio caffael yng Nghymru
• Cymeradwyo ymateb y Cyngor i’r argymhellion perthnasol a gyhoeddwyd.
NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL