8 Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Sgriwtini 2020/21 PDF 2 MB
Cyflwyno adroddiad gan Gadeiryddion y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a'r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD :-
· Cymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Sgriwtini ar gyfer 2020/21;
· Nodi’r cynnydd parhaus a wnaed wrth weithredu'r siwrnai ddatblygu Sgriwtini leol a'r effaith y mae hyn yn ei gael ar ymarfer;
penodi Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio fel y Pencampwr Sgriwtini ar gyfer y cyfnod Mai 2021 i Mai 2022.
Cofnodion:
Cyflwynwyd yr Adroddiad Trosolwg a Sgriwtini ar gyfer 2020/21 gan Gadeiryddion y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.
Adroddodd y Cynghorydd A M Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol bod y Cadeiryddion Sgriwtini wedi datblygu blaen raglenni gwaith y naill Bwyllgor Sgriwtini. Roedd y Cynghorydd G O Jones yn dymuno diolch i’r Paneli Sgriwtini am eu gwaith i gefnogi proses sgriwtini’r Cyngor. Nodwyd bod angen penodi Pencampwr Sgriwtini i hyrwyddo’r swyddogaeth trosolwg a sgriwtini yn y Cyngor ac â phartneriaid allanol yr Awdurdod yn ogystal.
PENDERFYNWYD:-
· cymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Sgriwtini ar gyfer 2020/21;
· nodi’r cynnydd parhaus a wnaed wrth weithredu'r siwrnai i ddatblygu Sgriwtini leol a'r effaith y mae hyn yn ei gael ar ymarfer;
· penodi Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn Bencampwr Sgriwtini ar gyfer y cyfnod Mai 2021 i Mai 2022.