4 Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 443 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod o fis Gorffennaf, 2021 i fis Chwefror, 2022, fel y’i cyflwynwyd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Gorffennaf, 2021 a Chwefror, 2022 i'w ystyried a nodwyd y newidiadau canlynol -
· Eitem tri (3) – Adroddiad Blynyddol Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 12 Gorffennaf 2021.
· Eitem 4 – Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Statudol ar Effeithiolrwydd Gwasanaethau Cymdeithasol – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 12 Gorffennaf 2021.
· Eitem 5 – Newidiadau i'r Cyfansoddiad: Pwerau Dirprwyedig – Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol a Manteision Cymunedol anstatudol – eitem a aildrefnwyd o gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 21 Mehefin 2021 i'w gyfarfod ar 12 Gorffennaf 2021.
· Eitem 11 – Adolygiad Ariannol Tymor Canolig – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 27 Medi 2021.
· Eitem 12 – Ymgynghoriad ar lefel Premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer ail gartrefi – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 27 Medi 2021.
· Eitem 21 – Sail y Dreth Gyngor 2022/23 – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 29 Tachwedd 2021.
· Eitemau 25 i 27 – eitemau’n gysylltiedig â Monitro’r Gyllideb – eitemau newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror 2022.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod o fis Gorffennaf, 2021 i fis Chwefror, 2022, fel y’i cyflwynwyd.