Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring - Quarter 4, 2020/21

Cyfarfod: 21/06/2021 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 6)

6 Monitro’r Gyllideb Refeniw - Chwarter 4, 2020/21 pdf eicon PDF 683 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

  • Nodi'r sefyllfa a ddisgrifir yn Atodiadau A a B yr adroddiad o ran perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a'r alldro a ddisgwylir ar gyfer 2020/21.
  • Nodi'r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2020/21 y manylir arnynt yn Atodiad C yr adroddiad.
  • Nodi sefyllfa'r rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad CH yr adroddiad.
  • Nodi'r sefyllfa mewn perthynas â'r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer 2020/21 yn Atodiad D yr adroddiad
  • Nodi monitro costau asiantaethau ac ymgynghori ar gyfer 2020/21 yn Atodiadau DD, E ac F yr adroddiad.
  • Bod llythyr yn cael ei anfon ar ran y Pwyllgor Gwaith at Weinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cymru i ofyn am arweiniad ynghylch cynlluniau ariannu Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol am y 3 blynedd nesaf er mwyn cynorthwyo cynghorau i gynllunio’n fwy strategol am y tymor canol.

 

 

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 oedd yn nodi perfformiad ariannol y Cyngor hyd yma a'r alldro disgwyliedig ar gyfer 2020/21 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod sefyllfa ariannol gyffredinol y Cyngor ar gyfer 2020/21, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa'r Dreth Gyngor, yn danwariant o £4.204m oherwydd effaith pandemig Covid 19 ar ddarparu gwasanaethau arferol a'r cymorth ariannol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i helpu cynghorau i ddelio â'r pandemig. Mae'r canlyniad hwn yn cyd-fynd yn bennaf â sefyllfa cynghorau eraill Gogledd Cymru sydd, am yr un rhesymau, yn bennaf oherwydd cyllid hwyr gan Lywodraeth Cymru, wedi nodi tanwariant ar ddiwedd Chwarter 4.  Mae'r tanwariant yn golygu bod balansau cyffredinol y Cyngor yn £11.6m ac er bod hon yn sefyllfa iach iawn i fod ynddi, byddai'n annoeth ei defnyddio fel cyfle i wario fel y mynnwn; bydd y broses adolygu gwasanaethau yn dechrau cyn bo hir a bydd gofynion a dyheadau pob gwasanaeth yn cael eu hystyried yn ogystal â'r opsiynau ariannol. Mae'r rhagolygon o ran pa mor hir y bydd pandemig y Coronafeirws yn para a beth fydd ei effaith ar gyllidebau'r Cyngor yn parhau i fod yn ansicr yn ogystal â pharhad a lefel cymorth ariannol Llywodraeth Cymru, felly mae angen cadw digon o arian wrth gefn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 nad yw blwyddyn ariannol 2020/21 wedi bod yn flwyddyn arferol gan fod Covid 19 wedi cael effaith sylweddol ar gyllid y Cyngor. Mae'r gefnogaeth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru - £6m i dalu costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â Covid a £2.6m ar gyfer colli incwmi'w groesawu'n fawr, heb y cymorth hwn byddai sefyllfa ariannol y Cyngor wedi bod yn llawer gwaeth - tua £4m o orwariant. Balansau cyffredinol y Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn yw £11.6m sy'n cyfateb i 8% o'i wariant refeniw net sy'n fwy na'r lefel isaf o 5% wrth gefn y cytunwyd arni gan y Cyngor. Bydd sut y gellir defnyddio'r balansau yn destun trafodaeth ond rhaid cofio bod ansicrwydd o hyd ynghylch effaith Covid 19 ar gyllidebau eleni yn ogystal â lefel y galw ar wasanaethau wrth i gyfyngiadau gael eu codi a allai arwain at wasanaethau’n gorwario a byddai'n rhaid talu am y gorwariant wedyn o'r balansau cyffredinol.

 

Gan gyfeirio at y gostyngiad yn incwm y Dreth Gyngor ar gyfer 2020/21 tynnodd y Swyddog Adran 151 sylw at drosglwyddo eiddo domestig i eiddo hunanarlwyo ar y gofrestr Ardrethi Busnes fel ffactor sy'n cyfrannu'n sylweddol - newidiodd tua 200 o eiddo o'r fath o Dreth Gyngor ddomestig i ardrethi busnes yn ystod y flwyddyn. Gellir ôl-ddyddio'r trosglwyddiadau hyn nifer o flynyddoedd sy'n golygu bod y Cyngor nid yn unig yn colli Treth Gyngor y flwyddyn gyfredol ond rhaid iddo ad-dalu unrhyw daliadau yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6