Mater - cyfarfodydd

Housing Revenue Account Budget Monitoring - Quarter 4, 2020/21

Cyfarfod: 21/06/2021 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 8)

8 Monitro'r Gyllideb CRT – Alldro 2020/21 pdf eicon PDF 466 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi’r sefyllfa mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) am y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth, 2021.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 oedd yn nodi perfformiad ariannol Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill, 2020 a 31 Mawrth, 2021 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid fod yr alldro ariannol refeniw yn dangos tanwariant o £557k a bod gwariant cyfalaf £6.410m yn is na'r gyllideb wreiddiol gan fod y pandemig, fel yr adroddwyd yn flaenorol, wedi effeithio'n ddifrifol ar gynnydd prosiectau cyfalaf.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 fod yr alldro cyffredinol ar gyfer incwm £153k yn well na'r gyllideb yn bennaf oherwydd y gostyngiad yn y ddarpariaeth ar gyfer dyledion drwg. Roedd tanwariant o £138k yn yr Uned Cynnal a Chadw Tai o ganlyniad uniongyrchol i sefyllfa Covid 19 gan mai dim ond atgyweiriadau hanfodol oedd yn cael eu gwneud; roedd gwariant cynnal a chadw ar wahân i waith trwsio £152k yn uwch na’r gyllideb o ganlyniad i'r eitemau a nodir ym mharagraff 6 o'r adroddiad. Rhoddodd y gyllideb refeniw warged o £8.39m sy'n uwch na'r gwarged arfaethedig o £7.8m pan gytunwyd ar y gyllideb. Roedd gwariant cyfalaf wedi gostwng tua £7.6m; mae'r gwariant is wedi caniatáu i £1.145m gael ei ychwanegu at gronfa'r CRT gan godi'r cyfanswm i £9.742m. Mae'r balans hwn wedi'i neilltuo felly mae ar gael i ariannu gwariant CRT yn y dyfodol gan gynnwys datblygiadau tai cyngor newydd yn y presennol a'r dyfodol. Felly, mae'r CRT mewn sefyllfa gadarn ac mae cronfa'r CRT yn rhoi cyfle i ychwanegu at y stoc dai; unwaith y bydd y gronfa wrth gefn wedi'i gostwng i lefel y cyllid y mae angen i'r Cyngor ei gynnal, gall y Cyngor wedyn arfer ei hawl i fenthyca yn erbyn y CRT i barhau â'i gynlluniau adeiladu tai.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Mummery, Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau ei fod yn falch o weld bod y ffigur ar gyfer ôl-ddyledion rhent yn mynd i'r cyfeiriad cywir er gwaethaf y pandemig, a'i fod yn edrych ymlaen at barhau i ddatblygu tai newydd i'r dyfodol gan ddefnyddio dulliau arloesol i gynorthwyo'r rhai mewn angen a'r rhai sy’n prynu tai am y tro cyntaf.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid, er nad oedd y Panel wedi craffu’n ffurfiol ar gyllideb y CRT, ei fod wedi trafod cyfraddau casglu a'r goblygiadau i'r gyllideb refeniw.

 

Penderfynwyd nodi’r sefyllfa mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) am y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth, 2021.