10 Ceisiadau'n Gwyro PDF 304 KB
10.1 – VAR/2020/76 – Brynteg, Llansadwrn
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NBjZDUA1/var202076?language=cy
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
10.1 VAR/2020/76 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) o penderfyniad apêl rhif APP/L6805/A/17/3167404 (Codi annedd) er mwyn diwygio lleoliad yr annedd a'r mynedfa i gerbydau ar dir ger Brynteg, Llansadwrn
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y
Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr
adroddiad ynghyd ag amod ychwanegol yn atal gweithrediad y caniatâd gwreiddiol.
Cofnodion:
10.1 VAR/2020/76 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) o benderfyniad apêl rhif APP/L6805/A/17/3167404 (Codi annedd) er mwyn newid lleoliad yr annedd a'r fynedfa i gerbydau ar dir ger Brynteg, Llansadwrn
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu ei gymeradwyo.
Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod cais yn cael ei wneud o dan Adran 73A a'i fod yn ymwneud â thŷ annedd marchnad agored cymeradwy a'i fod yn groes i bolisïau'r cynllun datblygu. Mae’r egwyddor o godi annedd eisoes wedi'i sefydlu yn y lleoliad hwn o dan benderfyniad apêl ac mae caniatâd yn parhau i fodoli. Fodd bynnag, ers mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, nodir Llansadwrn bellach fel clwstwr o dan bolisi cynllunio TAI 6 o'r CDLl ar y Cyd lle mae'n rhaid i unrhyw annedd newydd fod ar gyfer angen lleol fforddiadwy ar safle mewnlenwi. Serch hynny mae sefyllfa wrth gefn yn bodoli gan fod gan y safle ganiatâd sy'n bodoli sy'n gallu cael ei weithredu. Nododd na dderbyniwyd unrhyw sylwadau yn dilyn cyfnod cyhoeddusrwydd y cais diwygiedig. Ystyrir bod y gwelliannau arfaethedig yn dderbyniol ac yn cynrychioli gwelliant cyffredinol i'r cynlluniau a gymeradwywyd yn flaenorol.
Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod angen diwygio Amod 1 yn adroddiad y Swyddog i nodi y bydd y datblygiad yn dechrau 11 Mai 2022 fan bellaf i gydymffurfio â'r caniatâd sy'n bodoli eisoes. Bydd angen gosod amod ychwanegol sy'n atal gweithredu'r caniatâd gwreiddiol os caiff y cais diwygiedig ei gymeradwyo i sicrhau mai dim ond un annedd y gellir ei hadeiladu ar safle'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid cymeradwyo'r cais ac eiliodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE y cynnig.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag adroddiad ac argymhelliad y Swyddog yn ddarostyngedig i’r amodau ynddo, ynghyd ag amod ychwanegol yn atal gweithredu'r caniatâd gwreiddiol.