Mater - cyfarfodydd

Departure Applications

Cyfarfod: 05/05/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 10)

10 Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 304 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

10.1 VAR/2020/76 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) o penderfyniad apêl rhif APP/L6805/A/17/3167404 (Codi annedd) er mwyn diwygio lleoliad yr annedd a'r mynedfa i gerbydau ar dir ger Brynteg, Llansadwrn

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y

Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr

adroddiad ynghyd ag amod ychwanegol yn atal gweithrediad y caniatâd gwreiddiol.

 

Cofnodion:

10.1 VAR/2020/76 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) o benderfyniad apêl rhif APP/L6805/A/17/3167404 (Codi annedd) er mwyn newid lleoliad yr annedd a'r fynedfa i gerbydau ar dir ger Brynteg, Llansadwrn

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod cais yn cael ei wneud o dan Adran 73A a'i fod yn ymwneud â thŷ annedd marchnad agored cymeradwy a'i fod yn groes i bolisïau'r cynllun datblygu. Mae’r egwyddor o godi annedd eisoes wedi'i sefydlu yn y lleoliad hwn o dan benderfyniad apêl ac mae caniatâd yn parhau i fodoli.  Fodd bynnag, ers mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, nodir Llansadwrn bellach fel clwstwr o dan bolisi cynllunio TAI 6 o'r CDLl ar y Cyd lle mae'n rhaid i unrhyw annedd newydd fod ar gyfer angen lleol fforddiadwy ar safle mewnlenwi. Serch hynny mae sefyllfa wrth gefn yn bodoli gan fod gan y safle ganiatâd sy'n bodoli sy'n gallu cael ei weithredu.    Nododd na dderbyniwyd unrhyw sylwadau yn dilyn cyfnod cyhoeddusrwydd y cais diwygiedig.  Ystyrir bod y gwelliannau arfaethedig yn dderbyniol ac yn cynrychioli gwelliant cyffredinol i'r cynlluniau a gymeradwywyd yn flaenorol. 

Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod angen diwygio Amod 1 yn adroddiad y Swyddog i nodi y bydd y datblygiad yn dechrau 11 Mai 2022 fan bellaf i gydymffurfio â'r caniatâd sy'n bodoli eisoes.  Bydd angen gosod amod ychwanegol sy'n atal gweithredu'r caniatâd gwreiddiol os caiff y cais diwygiedig ei gymeradwyo i sicrhau mai dim ond un annedd y gellir ei hadeiladu ar safle'r cais. 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid cymeradwyo'r cais ac eiliodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE y cynnig. 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag adroddiad ac argymhelliad y Swyddog yn ddarostyngedig i’r amodau ynddo, ynghyd ag amod ychwanegol yn atal gweithredu'r caniatâd gwreiddiol.