Mater - cyfarfodydd

Development Proposals Submitted by Councillors and Officers

Cyfarfod: 05/05/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 11)

11 Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 421 KB

11.1 – FPL/2020/98 – Cae Prytherch, Llanfairpwll

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MgQp8UAF/fpl202098?language=cy

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

11.1 FPL/2020/98 – Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw gwaith peirianneg o greu llain galed at ddefnydd storio amaethyddol a defnydd datblygiad a ganiateir fel safle cîst car ynghyd â chadw’r addasiadau a wnaed i’r fynedfa i gerbydau ar dir yn Cae Prytherch, Llanfairpwll

 

PENDERFYNWYD:-

 

·  Gwrthod y cais i gadw gwaith peirianneg o greu llain galed ar y safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog fel a amlinellwyd yn adroddiad ysgrifenedig y Swyddog.

 

·  Gwrthod y cais i gadw’r addasiadau a wnaed i’r fynedfa gerbydau yn y safle gan yr ystyriwyd eu bod yn groes i bolisiau PCYFF 2 a 3 a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog.

 

 (Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd am ganiatáu’r cais).

 

Cofnodion:

11.1      FPL/2020/98 - Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw gwaith peirianyddol o greu wyneb caled at ddefnydd storio amaethyddol a defnydd datblygiad a ganiateir fel safle cist car ynghyd â chadw’r addasiadau a wnaed i’r fynedfa i gerbydau ar dir yng Nghae Prytherch, Llanfairpwll

 

Bu i’r Cynghorydd Eric Jones ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu ynghylch y cais a gadawodd y cyfarfod tra bod aelodau’n trafod ac yn pleidleisio ar y mater.

 

Bu i’r Cynghorydd Dafydd Roberts ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu ynghylch y cais a gadawodd y cyfarfod tra bod aelodau’n trafod ac yn pleidleisio ar y mater.

 

Gan fod yr ymgeisydd yn aelod etholedig, gofynnodd y Cadeirydd am gyngor cyfreithiol p’un ai a oedd angen i'r aelodau ddatgan diddordeb.  Mewn ymateb dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol nad yw'n fuddiant o dan y Cod os yw'r ymgeisydd yn aelod etholedig nac os yw aelod yn aelod o'r un grŵp gwleidyddol neu'n aelod ar gyfer yr un ward etholiadol. 

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn aelod etholedig.  Mae'r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 o Gyfansoddiad.

 

Siaradwr Cyhoeddus (asiant yr ymgeisydd)

 

Dywedodd Ms Sioned Edwards fod a wnelo’r cais dan sylw â chadw gwaith peirianyddol i greu wyneb caled ar y safle er mwyn i'r safle allu cael ei ddefnyddio at ddau ddiben; sef ar gyfer storio amaethyddol ac fel safle sêl cist car. Mae'r cais hefyd yn gofyn am ganiatâd i gadw'r newidiadau a wnaed i'r mynediad. Dylai fod yn glir nad yw'r cais hwn yn golygu newid defnydd o'r tir o gwbl - dim ond gosod yr wyneb caled. Defnyddid y safle arfaethedig ar gyfer sêl cist car, sydd wedi bod yn boblogaidd yn lleol. Yn flaenorol, fe’i defnyddid fel safle sêl cist car am hyd at 14 diwrnod y flwyddyn o dan hawliau datblygu cyffredinol a ganiateir. Gan fod y safle'n tueddu i fod yn wlyb, roedd angen gwella'r safle i fod yn addas i'r diben ac felly darparwyd wyneb caled er mwyn sicrhau bod y safle'n addas ar gyfer y defnyddwyr a'r ymwelwyr, a hefyd i sicrhau nad oedd unrhyw fwd o'r safle yn cael ei gario i'r briffordd gyfagos. Mae creu safle sy'n addas ac yn ddiogel i bob defnyddiwr yn eithriadol o bwysig. Mae adroddiad y Swyddog yn nodi bod cadw'r wyneb caled i ddarparu safle cist car addas i'r diben yn afresymol. Er nad yw'r safle wedi bod yn cael ei ddefnyddio drwy gydol y pandemig, mae hawliau datblygu dros dro newydd a ganiateir i gefnogi adferiad economaidd o ganlyniad i Coronafeirws bellach yn caniatáu i'r safle gael ei ddefnyddio am hyd at 28 diwrnod mewn blwyddyn. Dyma fyddai bwriad yr ymgeisydd unwaith y bydd canllawiau'r Coronafeirws yn caniatáu hynny. Roedd hyn yn ffordd o arallgyfeirio i'r ymgeisydd, gan ei alluogi i ddarparu arwerthiant cist car mewn lleoliad hygyrch a chynaliadwy ar gyrion Llanfairpwll, gan wneud gwell defnydd o'r safle. Ers diwedd 2019, mae'r ymgeisydd wedi talu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11