12 Gweddill y Ceisiadau PDF 417 KB
12.1 – FPL/2021/38 – Gwel y Mor, Bae Trearddur
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NCsEOUA1/fpl202138?language=cy
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 FPL/2021/38 – Cais llawn ar gyfer gosod 2 pod glampio ynghyd â chreu mynedfa newydd a datblygiadau cysylltiedig ar dir ger Gwel y Môr, Bae Treaddur.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol.
Cofnodion:
12.1 FPL/2021/38 – Cais llawn ar gyfer gosod 2 pod glampio ynghyd â chreu mynedfa newydd a datblygiadau cysylltiedig ar dir ger Gwêl y Môr, Bae Trearddur
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Dywedodd y Cynghorydd J Arwel Roberts, Aelod Lleol bod angen diwygio cyfeiriad y cais gan fod yr eiddo ym Mhenrhosfeilw, Caergybi. Gofynnodd y Cynghorydd Roberts i'r Pwyllgor gynnal ymweliad rhithwir â safle'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cynnal ymweliad rhithwir â'r safle ac eiliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y cynnig.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad rhithwir â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.