Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 02/06/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 2 MB

12.1  HHP/2020/253 – Plot H Lleiniog, Penmon

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NAFcQUAX/hhp2020253?language=cy

 

12.2  FPL/2020/165 – Adeilad Allanol 1, Lleiniog, Penmon

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MiUpaUAF/fpl2020165?language=cy

 

12.3  VAR/2021/27 – Christ Church, Rhosybol

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000I28EkUAJ/var202127?language=cy

 

12.4  FPL/2021/78 - Parc Gwledig Morglawdd, Caergybi

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OJcVOUA1/fpl202178?language=cy

 

12.5  FPL/2021/71 – Bryn Gollen Newydd, Llanerchymedd

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000I2AJgUAN/fpl202171?language=cy

 

12.6  HHP/2021/35 – 54 Pennant, Llangefni

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NCnVPUA1/hhp202135?language=cy

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1 HHP/2020/253 – Cais ôl-weithredol ar gyfer addasiadau ac estyniadau yn Plot H, Lleiniog, Penmon

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.2 FPL/2020/165 - Cais llawn ar gyfer trosi'r adeilad allanol i fod yn uned gwyliau yn Outbuilding 1, Lleiniog, Penmon

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.3 VAR/2021/27 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (Cynlluniau a gymeradwywyd) a (03) (Mynedfa a man parcio) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/322 (newid defnydd eglwys i annedd gydag adeiladu mynedfa cerbydau newydd) er mwyn diwygio'r man parcio i hepgor darparu trofwrdd yn Christ Church, Rhosybol, Amlwch

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol.

12.4 FPL/2021/78 - Cais llawn ar gyfer creu ardal chwarae awyr agored ar dir ym Mharc Gwledig Morglawdd, Caergybi

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr

adroddiad a’r ychwanegiad o amod o ran cynllun tirlunio. 

12.5 FPL/2021/71 - Cais llawn ar gyfer cadw'r strwythur presennol a pharhau a'r gwaith o godi uned gwyliau ynghyd a gwaith cysylltiedig ar dir yn Bryn Gollen Newydd, Llannerchymedd

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.6 HHP/2021/35 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu  yn 54 Pennant, Llangefni

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

Cofnodion:

12.1 HHP/2020/253 – Cais ôl-weithredol ar gyfer addasiadau ac estyniadau ym Mhlot H, Lleiniog, Penmon

 

Daeth y cais i sylw'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl cael ei alw i mewn gan Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Lleol fod y datblygiad wedi bod yn destun llawer o bryder lleol a'i fod felly'n gofyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle rhithwir â’r cais er mwyn cael gwell gwerthfawrogiad o natur y datblygiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE, ac eiliodd y Cynghorydd Robin Williams, y dylid cynnal ymweliad safle rhithwir.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.2 FPL/2020/165 – Cais llawn ar gyfer addasu adeilad allanol i fod yn uned gwyliau yn Adeilad Allan1, Lleiniog, Penmon

 

Daeth y cais i sylw'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Lleol, ei fod, fel gyda'r cais blaenorol, yn gofyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle rhithwir gan fod y cynnig ar yr un safle a'i fod yn destun pryder lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, ac eiliodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE y dylid cynnal ymweliad safle rhithwir.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.3 VAR/2021/27 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (Cynlluniau a gymeradwywyd) a (03) (Mynedfa a man parcio) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/322 (newid defnydd eglwys i annedd gydag adeiladu mynedfa cerbydau newydd) er mwyn diwygio'r man parcio i hepgor darparu lle troi yn Eglwys Crist, Rhosybol, Rhosybol, Amlwch

 

Daeth y cais i sylw'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl cael ei alw gan Aelod Lleol oherwydd materion priffyrdd ac effaith ar y dirwedd o amgylch yr eglwys.

 

Wrth nodi bod pryder mawr yn lleol am y cais hwn, cyfeiriodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Aelod Lleol at ohebiaeth dyddiedig 3 Mawrth, 2021 gan y Parch Kevin Ellis i'r Adran Gynllunio. Darllenodd yr ohebiaeth a oedd yn nodi amheuon yr awdur ynglŷn â'r cais ar y pryd ar y sail bod y gweithredoedd y gwerthiant yn atal unrhyw newidiadau i wal a maint y giât (nododd yr Aelod Lleol ei fod wedi'i thynnu i lawr), agosrwydd y lle troi arfaethedig at y beddau a thystiolaeth bod plant marw-anedig yn cael eu gosod i orffwys ar ymyl y fynwent. Er bod cais blaenorol yn y cyfarfod heddiw yn ymdrin â phwysigrwydd preifatrwydd, tynnodd y Cynghorydd Jones sylw at bwysigrwydd parchu'r meirw. Er y cynigir yn awr y dylid hepgor y lle troi, mae'r fynwent yn amgylchynu’r eglwys a chladdedigaethau yn dal i gael eu derbyn. Hoffai i'r Pwyllgor ystyried gwneud yr amodau cynllunio ar y caniatâd yn fwy cadarn, ond yn gyntaf roedd am ofyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle rhithwir pellach fel y gall aelodau weld effaith y wal  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12