4 Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 406 KB
Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod rhwng mis Hydref 2021 a mis Mai 2022, fel y’i cyflwynwyd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Hydref, 2021 i Mai, 2022 a nodwyd y newidiadau canlynol:-
· Eitem 2 – Ymgynghoriad ar lefel Premiwm y Dreth Cyngor ar gyfer ail gartrefi – eitem wedi’i haildrefnu o 27 Medi, 2021 i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 25 Hydref, 2021.
· Eitem 3 –Strategaeth Cyfraniadau Buddion Cymunedol – eitem wedi’i haildrefnu o 27 Medi, 2021 i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 25 Hydref,2021.
· Eitem 5 – Erlyniad Difrod Ffyrdd – eitem wedi’i haildrefnu o 27 Medi, 2021 i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 25 Hydref,2021.
· Eitem 13 – Safle Peboc – eitem newydd wedi’i threfnu ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 29 Tachwedd, 2021.
· Eitem 18 – Her Tai: Ymateb CSYM i’r sefyllfa dai lleol – eitem wedi’i haildrefnu o 13 Rhagfyr, 2021 i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 24 Ionawr, 2022.
· Eitem 16 – Sefydlu Awdurdod Iechyd Porthladd ar gyfer Porthladd Caergybi – eitem newydd wedi’i threfnu ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 13 Rhagfyr, 2021.
· Eitem 17 – Polisi Cynnal Ffyrdd a Rheoli Asedau Priffyrdd - eitem newydd wedi’i threfnu ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 13 Rhagfyr, 2021.
· Eitem 19 – Strategaeth Dai Lleol 2022-2027 – eitem newydd wedi’i threfnu ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 13 Rhagfyr, 2021.
· Eitem 28 – Strategaeth Digartrefedd a Grant Cymorth Tai – eitem wedi’i threfnu newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith 21 Mawrth, 2022.
· Eitem 29 – Adroddiad Cynnydd: Rhaglen Wella’r Gwasanaethau Cymdeithasol – eitem newydd wedi’i threfnu ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 21 Mawrth, 2022.
PENDERFYNWYD cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod rhwng mis Hydref 2021 a mis Mai 2022, fel y’i cyflwynwyd.