Mater - cyfarfodydd

Corporate Scorecard - Quarter 1, 2021/22

Cyfarfod: 27/09/2021 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 5)

5 Monitro Perfformiad: Cerdyn Sgorio Corfforaethol - Chwarter 1 2021/22 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

·      derbyn adroddiad monitro’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Ch1 2021/2022, a nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli i sicrhau gwelliannau i’r dyfodol a derbyn y mesurau lliniaru a amlinellir yn yr adroddiad;

·           enwebu cynrychiolydd o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol i fod yn aelod o’r Grŵp Llywio a sefydlwyd yn ddiweddar, sydd yn cynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a WRAP Cymru, i archwilio materion yn ymwneud ag ailgylchu a gwastraff gwyrdd.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid a oedd yn cynnwys y Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 1, 2021/2022 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Deilydd y Portffolio Busnes Corfforaethol. Hwn yw’r cerdyn sgorio cyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22  a chaiff ei ystyried o fewn y cyd-destun sydd yn cydnabod yr heriau ehangach oedd ar ofyn y Cyngor yn Chwarter 1 yn sgil effaith y pandemig. Ar ddiwedd Ch1 mae’n galonogol bod mwyafrif y dangosyddion perfformiad sy’n cael eu monitro, 85%, yn dal i berfformio’n dda yn erbyn eu targedau neu o fewn 5% i’w targedau. Cyfeiriodd at y ffaith bod y gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd wedi bod dan bwysau sylweddol yn ystod y pandemig a nodwyd bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyhoeddi canllawiau i’w gweithredu o ran diogelwch bwyd a blaenoriaethu busnesau newydd. Hyd yma, ni dderbyniwyd cadarnhad ar y modd y dylid blaenoriaethu arolygon wedi’r pandemig o bersbectif cenedlaethol ac felly argymhellir bod y dangosydd hwn yn cael ei dynnu o’r Cerdyn Sgorio ar gyfer y flwyddyn 2021/22 a’i fonitro’n fewnol. Mae’r dangosydd perfformiad mewn perthynas ag ymatebion ysgrifenedig i gwynion cyn pen 15 diwrnod gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i fod yn GOCH. Eglurodd y Deilydd Portffolio bod ymatebion llafar wedi cael eu rhoi oddi mewn i’r targed penodol ond bod ymatebion ysgrifenedig i gwynion yn ddibynnol ar ymatebion gan sefydliadau allanol. Cyfeiriodd y Deilydd Portffolio at ddangosydd 35 - canran yr holl geisiadau cynllunio a benderfynwyd mewn pryd - sydd yn GOCH, gyda chanran o 73% yn erbyn targed o 82%. Nododd bod materion yn ymwneud â chapasiti wedi effeithio ar y gwasanaeth yn yr Adran Gynllunio a’u bod wedi’u nodi yn yr adroddiad. Fodd bynnag, dywedodd bod gwelliannau wedi bod yn y Tîm Gorfodi yn yr Adran Gynllunio.

 

Aeth y Deilydd Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol ymlaen i gyfeirio at ddangosydd 32 - canran y gwastraff a gafodd ei ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio - sydd yn GOCH, gyda pherfformiad o 64.55% yn erbyn targed o 70% ar gyfer y chwarter hwn. Mae’r perfformiad yn is na’r 67.07% a welwyd yn Ch1 2020/21 a’r 72.79% a welwyd yn Ch1 2019/20.  Y pandemig yw un o’r rhesymau dros y gostyngiadau gan fod llai o bobl wedi gallu defnyddio’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref a’r cynnydd mewn gwastraff cartref bin du oherwydd bod mwy o bobl yn gweithio o’r cartref.  Mae’r ffactorau eraill yn cynnwys anawsterau o ran dod o hyd i allfeydd i ailgylchu rhai defnyddiau fel y nodir yn yr adroddiad. Nodwyd bod awdurdodau lleol eraill yn wynebu’r un problemau o ran ailgylchu gwastraff penodol. Cyfeiriodd y Deilydd Portffolio hefyd at y ffaith bod gostyngiad wedi bod yn nifer y tunelli o wastraff gwyrdd a gesglir yn dilyn cyflwyno tâl am gasglu Gwastraff Gwyrdd yn Ebrill 2021. I liniaru’r tanberfformiad presennol, mae  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5