8 Monitro'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 1, 2021/22 PDF 425 KB
Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2021/22 yn Chwarter 1.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Adroddodd y Deilydd Portffolio Cyllid bod yr adroddiad yn monitro’r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol. £54.253m yw cyfanswm y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2021/22. Nododd mai’r disgwyliad erbyn diwedd Ch1 oedd y byddai cyfanswm o £6.396m wedi cael ei wario ond mai £5.262m a wariwyd o’r gyllideb flynyddol mewn gwirionedd gyda £706k wedi’i ymrwymo. Gweithredir nifer o gynlluniau cyfalaf tuag at ran olaf y flwyddyn ariannol.
Fe ategodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 sylwadau’r Deilyddd Portffolio a nododd bod y Panel Sgriwtini Cyllid wedi codi’r tebygolrwydd o newid amserlen y gyllideb gyfalaf fel y gellid gosod y gyllideb yn gynharach yn y flwyddyn er mwy galluogi i brosiectau gychwyn yn gynt ac felly osgoi tanwariant sylweddol erbyn diwedd y flwyddyn. Nododd y byddai gosod y gyllideb gyfalaf yn gynharach yn y flwyddyn yn galluogi i brosesau tendro contractau gael eu cyflawni’n gynt ac y gellid rhoi hyn ar waith yn ystod blwyddyn ariannol 2023/24. Amlygodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 nifer o gynlluniau Grant Cyfalaf yn y Rhaglen Cyfalaf fel y nodir ym Mharagraff 3 sydd yn dangos bod cynlluniau cyfalaf yn ddibynnol ar arian grant allanol ar gyfer grantiau LlC a pharhad grantiau’r UE. Nododd bod ffactorau risg mewn perthynas â’r gyllideb gyfalaf yn cynnwys y pandemig ac absenoldeb staff oherwydd eu bod yn gorfod hunan-ynysu. Y mae hefyd risgiau yn gysylltiedig â phrosiectau sydd wedi’u tendro i gontractwyr gan fod deunyddiau’n brin a phrisiau deunyddiau wedi cynyddu’n sylweddol. Aeth y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ymlaen i ddweud y daw’r rhagolygon ar gyfer y gyllideb gyfalaf yn fwy eglur yn yr adroddiad ar gyfer Ch2.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid bod y Panel wedi cael cyflwyniad llafar gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a nodwyd bod perfformiad y gyllideb gyfalaf yn Ch1 yn adlewyrchu’r patrwm tanwariant blaenorol a bod llithriadau’n debygol o dan y penawdau canlynol yn fwy na thebyg:-
Rhaglen datblygu tai’r Cyngor
Rhaglenni moderneiddio tai cyngor SATC
Addasiadau anabledd mewn ysgolion
Y rhaglen moderneiddio ysgolion
Cynlluniau atal llifogydd
Mae’r Panel yn nodi’r tanwariant yng Nghyllideb Cyfalaf 2021/22 yn Chwarter 1, nododd hefyd y tebygolrwydd y gellid gweithredu’r gyllideb gyfalaf ar wahanol amserlen yn y dyfodol er mwyn gosod y gyllideb yn gynharach yn y flwyddyn a galluogi i brosiectau gael eu rhoi ar waith yn gynt ac osgoi tanwariant sylweddol erbyn diwedd y flwyddyn.
PENDERFYNWYD nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2021/22 yn Chwarter 1.