9 Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 1, 2021/22 PDF 472 KB
Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD nodi:-
· Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 1 2021/22.
· Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2021/22.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 1 2021/22 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Adroddodd y Deilydd Portffolio Cyllid bod y CRT wedi’i glustnodi ac na ellir trosglwyddo cyllid o’i gronfeydd wrth gefn i’r Gronfa Gyffredinol, ac ni ellir defnyddio cyllid o gronfeydd wrth gefn y Gronfa Gyffredinol i gyllido’r CRT. Mae’r sefyllfa ariannol refeniw ar gyfer y chwarter cyntaf yn dangos gorwariant o £18k (fel y nodir yn Atodiad A) ac mae’r gwariant cyfalaf £266k yn llai na’r gyllideb a broffiliwyd. Mae’r gwariant a ragwelir £6,293k yn is na’r gyllideb, fel y nodir yn Atodiad B. Mae’r diffyg a ragwelir (gan gyfuno refeniw a chyfalaf) yn £4,906k, £4,209k yn llai na’r gyllideb, yn bennaf oherwydd bod y gwariant cyfalaf yn is na’r gyllideb. Aeth y Deilydd Portffolio ymlaen i ddweud bod y pwysau ychwanegol ar y gyllideb yn debygol o fod o ganlyniad i’r cynnydd mewn costau deunyddiau adeiladu.
Cynghorodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mai £9.7m oedd balans agoriadol cronfa wrth gefn y CRT er mwyn talu am gostau a fydd yn codi yn ystod y flwyddyn ariannol i ddiweddaru’r stoc dai bresennol ac i adeiladu tai cymdeithasol newydd a benthyg arian i barhau â’r prosiectau yn y tymor canolig ac yn yr hir dymor. Fe nododd er y tanwariant y bydd cyllid cyfalaf o £4.8m ar gael yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf i ddatblygu prosiectau tai cymdeithasol newydd. Rhagwelir y bydd yr incwm refeniw rhenti yn is na’r disgwyl oherwydd yr oedi gyda’r rhaglen i adeiladu cartrefi newydd. Nodwyd mai adroddiad Ch1 yw hwn ac y rhagwelir gwariant pellach yn ystod misoedd y gaeaf.
Dywedodd y Deilydd Portffolio Gwasanaethau Tai y byddai caffael hen dai Cyngor ac adeiladu tai cymdeithasol newydd yn cynyddu cyllideb refeniw’r CRT yn ystod y misoedd nesaf.
PENDERFYNWYD nodi:-
· Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 1 2021/22;
· Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2021/2022.