Mater - cyfarfodydd

Housing Revenue Account Budget Monitoring Report - Quarter 1, 2021/22

Cyfarfod: 27/09/2021 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 9)

9 Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 1, 2021/22 pdf eicon PDF 472 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi:-

·           Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 1 2021/22.

·           Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2021/22.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 1 2021/22 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Deilydd Portffolio Cyllid bod y CRT wedi’i glustnodi ac na ellir trosglwyddo cyllid o’i gronfeydd wrth gefn i’r Gronfa Gyffredinol, ac ni ellir defnyddio cyllid o gronfeydd wrth gefn y Gronfa Gyffredinol i gyllido’r CRT.  Mae’r sefyllfa ariannol refeniw ar gyfer y chwarter cyntaf yn dangos gorwariant o £18k (fel y nodir yn Atodiad A) ac mae’r gwariant cyfalaf £266k yn llai na’r gyllideb a broffiliwyd.  Mae’r gwariant a ragwelir £6,293k yn is na’r gyllideb, fel y nodir yn Atodiad B.   Mae’r diffyg a ragwelir (gan gyfuno refeniw a chyfalaf) yn £4,906k, £4,209k yn llai na’r gyllideb, yn bennaf oherwydd bod y gwariant cyfalaf yn is na’r gyllideb. Aeth y Deilydd Portffolio ymlaen i ddweud bod y pwysau ychwanegol ar y gyllideb yn debygol o fod o ganlyniad i’r cynnydd mewn costau deunyddiau adeiladu.

 

Cynghorodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mai £9.7m oedd balans agoriadol cronfa wrth gefn y CRT er mwyn talu am gostau a fydd yn codi yn ystod y flwyddyn ariannol i ddiweddaru’r stoc dai bresennol ac i adeiladu tai cymdeithasol newydd a benthyg arian i barhau â’r prosiectau yn y tymor canolig ac yn yr hir dymor. Fe nododd er y tanwariant y bydd cyllid cyfalaf o £4.8m ar gael yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf i ddatblygu prosiectau tai cymdeithasol newydd.  Rhagwelir y bydd yr incwm refeniw rhenti yn is na’r disgwyl oherwydd yr oedi gyda’r rhaglen i adeiladu cartrefi newydd. Nodwyd mai adroddiad Ch1 yw hwn ac y rhagwelir gwariant pellach yn ystod misoedd y gaeaf.

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio Gwasanaethau Tai y byddai caffael hen dai Cyngor ac adeiladu tai cymdeithasol newydd yn cynyddu cyllideb refeniw’r CRT yn ystod y misoedd nesaf.  

 

PENDERFYNWYD nodi:-

 

·           Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 1 2021/22;

·           Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2021/2022.