8 Archwilio Allanol: Cyngor Sir Ynys Môn - Cynllunio'r Gweithlu PDF 795 KB
Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol.
Penderfyniad:
Penderfynwyd derbyn adroddiad yr Archwilwyr Allanol mewn perthynas â chynllunio’r gweithlu yng Nghyngor Sir Ynys Môn a nodi cynnwys yr adroddiad.
|
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad Archwilio Allanol ar ddull a threfniadau Cyngor Sir Ynys Môn o ran cynllunio'r gweithlu i'r Pwyllgor ei ystyried.
Cyfeiriodd Ms Bethan Roberts, Archwilio Cymru at bwysigrwydd cynllunio'r gweithlu wrth nodi a diwallu anghenion gweithlu'r dyfodol ac wrth ymateb yn rhagweithiol i unrhyw faterion a allai godi; tynnodd sylw at brif ganfyddiadau adroddiad Archwilio Allanol fel a ganlyn –
· Ar ôl profi heriau'r gweithlu yn y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd, mae'r Cyngor yn defnyddio'r profiad hwnnw i ddatblygu cynllunio'r gweithlu ac mae ganddo gyfleoedd pellach i sicrhau manteision ar draws gwasanaethau; daethpwyd i'r casgliad hwn oherwydd –
· Datblygwyd Strategaeth Gweithlu gan y Cyngor yn 2012 ond ni chafodd ei ymgorffori ym mhob gwasanaeth.
· Mae’r dull o gynllunio'r gweithlu gan Wasanaeth Plant a Theuluoedd y Cyngor wedi bod o gymorth i ymateb i'r heriau y mae'n eu hwynebu
· Mae'r Cyngor bellach yn canolbwyntio mwy ar gynllunio'r gweithlu a thrwy gynnal y ffocws hwn, gall sicrhau mwy o fanteision ar draws yr holl wasanaethau.
Mae Archwilio Allanol wedi gwneud dau argymhelliad, y naill mewn perthynas â gweithredu cynlluniau'r gweithlu ar draws yr holl wasanaethau a'r llall mewn perthynas â chael sicrwydd bod cynlluniau'r gweithlu yn ddogfennau byw.
Wrth ymateb i'r adroddiad, cadarnhaodd Pennaeth y Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid fod trafodaethau ac adborth gan Archwilio Cymru wedi bod yn adeiladol ac yn ddefnyddiol ac ers adolygiad Archwilio Allanol ym mis Chwefror, 2021 mae proses bellach wedi dechrau lle trafodir cynllunio'r gweithlu bob chwarter yng nghyfarfodydd y Penaethiaid sy'n cynnwys yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a phob Pennaeth Gwasanaeth. Erbyn hyn, mae gan bob gwasanaeth gynllun gweithlu er bod angen ffurfioli rhai yn fanylach. Mae Penaethiaid Gwasanaeth hefyd yn cyfarfod â Swyddogion Adnoddau Dynol bob chwarter i ystyried data'r gweithlu sydd yn ei dro yn llywio cynllun gweithlu'r gwasanaeth. Mae cynllunio'r gweithlu wedi dod yn bwysicach yng ngoleuni'r pandemig a phroblemau recriwtio eang yn genedlaethol; mae angen hyblygrwydd er mwyn gallu delio ag amgylchedd sy'n newid a’r newid o ran anghenion a heriau.
Penderfynwyd derbyn adroddiad Archwilio Allanol o ran cynllunio'r gweithlu o fewn Cyngor Sir Ynys Môn a nodi ei gynnwys.