Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 06/10/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

7.1  FPL/2021/144 – Cais llawn ar gyfer gwaith dymchwel rhannol ynghyd ag addasiadau ac estyniadau er mwyn creu unedau ychwanegol yn Llys y Gwynt, Llanfawr Close, Caergybi

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn adroddiad ysgrifenedig y swyddog.

 

7.2  FPL/2019/338 – Cais llawn ar gyfer tynnu rhan o’r morglawdd concrid presennol a chodi morglawdd newydd yn ei le ar y terfyn yn Cerrig, Penmon

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.3  HHP/2021/183 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu a chodi ystafell ardd yn Dirion Dir, Llangefni

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.4  FPL/2021/145 – Cais llawn ar gyfer gosod dau gwt bugail yn Rhosydd, Brynteg

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd yr ystyriwyd bod y cynnig yn cydymffurfio â pholisi TWR3 ac oherwydd bod y safle gerllaw nifer o safleoedd carafanau.

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd dros gymeradwyo’r cais).

 

7.5  HHP/2021/157 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn The Old Smithy, Marianglas

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

Cofnodion:

 7.1  FPL/2021/144 – Cais llawn ar gyfer gwaith dymchwel rhannol ynghyd ag addasiadau ac estyniadau er mwyn creu unedau ychwanegol yn Llys y Gwynt, Llanfawr Close, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Medi 2021 penderfynwyd ymweld â’r safle. Cynhaliwyd ymweliad safle rhithwir ar 15 Medi 2021.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Gwyndaf Williams, a oedd yn siarad o blaid y cais, fod y cais ar gyfer moderneiddio ac adeiladu unedau ychwanegol ar gyfer pobl ifanc ddigartref yn Llys y Gwynt. Os caiff ei gymeradwyo, bydd y datblygiad hwn yn hwb enfawr i wella ansawdd bywyd a chyfleoedd i’r bobl ifanc dan sylw. Nododd ei bod yn bwysig i’r pwyllgor Cynllunio dderbyn y wybodaeth a ganlyn wrth iddynt ystyried y cais cynllunio i wella a chynyddu maint y cynllun.

  • Datblygwyd Llys y Gwynt yn 1998 gan Gymdeithas Tai Eryri fel uned sydd yn cynnig 9 gwely ar gyfer pobl ifanc digartref yr Ynys.
  • Mae’r cynllun yn cael ei reoli a’i staffio 24 awr y dydd gan Digartref Cyf.
  • Dros y blynyddoedd mae’r cynllun wedi darparu cartref i nifer o unigolion ifanc yr Ynys ac wedi rhoi cyfle iddynt wella a ffynnu.
  • Gan i’r cynllun fod ar waith am 23 o flynyddoedd, mae angen uwchraddio’r adeilad er mwyn cwrdd â’r safonau diweddaraf, ac oherwydd y gofyn cynyddol am y gwasanaeth mae cyfle yn bodoli i roddi 3 uned ychwanegol yno a fydd yn codi  cyfanswm yr unedau o 9 i 12 uned.
  • Mae’r gwelliannau dan sylw yn golygu buddsoddi bron i £1.1m yn y cynllun a denwyd £513k o arian grant Atal Digartrefedd gan Lywodraeth Cymru yn sgil y galw cynyddol sy’n bodoli am y math hwn o wasanaeth.
  • Yn ystod y 12 mis a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021 cyfeiriwyd 84 o bobl ifanc i’r gwasanaeth sydd yn cael ei gynnig gan Llys y Gwynt.
  • O’r 84 unigolyn derbyniwyd 38 ohonynt gan y cynllun. Allan o’r 53 a wrthodwyd roedd 12 oherwydd bod y risg o’u cartrefu yno rhy uchel sy’n tystiolaethu bod asesiad manwl yn cael ei gynnal cyn derbyn unrhyw berson ifanc i’r cynllun.
  • O’r 38 a leolwyd yn Llys y Gwynt yn ystod y flwyddyn dan sylw, roedd 4 ohonynt yn unigolion ôl-ofal a fu yng ngofal y Cyngor.
  • Yn ystod y flwyddyn dan sylw, roedd 11 o ddigwyddiadau lle’r oedd angen cysylltu â’r gwasanaethau brys, 4 oherwydd yr angen am ambiwlans, 2 oherwydd bod plentyn ar goll a 5 oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol lefel isel. Mae hyn yn lefel isel o achosion ac yn debyg iawn i lefelau a welir mewn cynlluniau fflatiau rhent cyffredinol.
  • Mae Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Phennaeth Tai Cyngor Sir Ynys Môn yn gefnogol iawn i’r cynnig hwn i wella’r ddarpariaeth yn Llys y Gwynt.

 

Dywedodd y Rheolwr Gorfodaeth Cynllunio bod y cais yn gais llawn ar gyfer dymchwel rhan o’r adeilad a’i addasu a’i ymestyn i greu 6 uned ychwanegol fel hostel i ddarparu llety â chymorth i  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7