Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 06/10/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 1 MB

12.1 – FPL/2021/220  - Canolfan Addysg Y Bont, Ffordd Cildwrn /, Llangefni

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000O2kh1UAB/fpl2021220?language=cy

 

12.2 – FPL/2021/163 – Canolfan Ucheldre, Caergybi

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKxRLUA1/fpl2021163?language=cy

 

12.3 – LBC/2021/24 Canolfan Ucheldre, Caergybi

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OLC9KUAX/lbc202124?language=cy

 

12.4 –  FPL/2201/108 - Fedw Uchaf, Brynrefail, Dulas

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKKltUAH/fpl2021108?language=cy

 

12.5 – FPL/2021/106 – Neuadd, Cemaes

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKHJzUAP/fpl2021106?language=cy

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1  FPL/2021/220 – Cais llawn i gadw’r adeilad parod am gyfnod dros dro hyd at fis Mawrth 2022 i gartrefu dwy ystafell ddosbarth a thoiledau i’w defnyddio gan ddisgyblion yng Nghanolfan Addysg y Bont, Ffordd Cildwrn, Llangefni

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac i ddileu Amod 1.

 

12.2  FPL/2021/163 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ymestyn yr adeilad rhestredig ynghyd â gwaith tirlunio yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais a rhoi grym i’r Swyddog weithredu wedi i’r cyfnod ymgynghori statudol ddod i ben.

 

12.3  LBC/2021/24 – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith dymchwel rhannol ac estyniadau ynghyd ag addasiadau mewnol ac allanol i’r adeilad yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  FPL/2021/108 – Cais llawn ar gyfer troi’r adeilad allanol yn annedd fforddiadwy ynghyd a’i addasu a’i ymestyn yn Fedw Uchaf, Brynrefail, Dulas

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd yr ystyriwyd bod y cynnig yn cydymffurfio â pholisi TAI3, nad oes defnydd cyflogaeth arall i’r adeilad ac nad yw’r addasiadau yn sylweddol.

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd dros ganiatáu’r cais).

 

12.5  FPL/2021/106 – Cais llawn ar gyfer cadw cwt pren i ddal peiriant gwerthu llefrith (Dosbarth Defnydd A1) ynghyd â llain galed a lle parcio, addasu’r fynedfa bresennol i gerbydau a gwaith tirlunio cysylltiedig yn Neuadd, Cemaes

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.

Cofnodion:

 12.1  FPL/2021/220 – Cais llawn i gadw’r adeilad parod am gyfnod dros dro hyd at fis Mawrth 2022 i gartrefu dwy ystafell ddosbarth a thoiledau i’w defnyddio gan ddisgyblion yng Nghanolfan Addysg y Bont, Ffordd Cildwrn, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir yn eiddo i’r Cyngor.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod y cais ar gyfer cadw adeilad parod ar y tir tan fis Mawrth 2022 oherwydd bod angen gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol helaeth ar do Canolfan Addysg y Bont. Dywedodd y byddai angen dileu Amod 1 yn adroddiad y swyddog gan fod y cais am gyfnod dros dro yn unig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Ieuan Williams.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig a bod Amod 1 yn cael ei ddileu.

 

12.2  FPL/2021/163 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ymestyn yr adeilad rhestredig ynghyd â gwaith tirlunio yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y Cyngor yn berchen ar ran o’r safle.

 

Dywedodd y Rheolwr Cynllunio – Amgylchedd Adeiledig a Naturiol bod y cais ar gyfer estyniad ochr i greu siop/cyntedd, codi estyniad cefn er mwyn creu gweithdy celf, stiwdio ddawns, cyfleusterau storio a newid ar gyfer Canolfan Ucheldre, sydd yn adeilad rhestredig, addasu’r gosodiad mewnol ynghyd â dymchwel rhai waliau mewnol a gwneud gwaith tirlunio meddal a chaled. Nododd yr ystyrir na fyddai’r estyniad yn gorbwyso cymeriad neu edrychiad yr adeilad presennol. Nodwyd hefyd y cyflwynwyd cynlluniau diwygiedig ar 17 Medi 2021 a’r dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau yw 14 Hydref 2021.

 

Cynigiodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffiths.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais a rhoi’r hawl i’r swyddog weithredu trwy gymeradwyo’r cais yn unol â’r argymhelliad ar ôl i’r cyfnod ymgynghori statudol ddod i ben.

 

 

12.3  LBC/2021/24 – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith dymchwel rhannol ac estyniadau, ynghyd ag addasiadau mewnol ac allanol i’r adeilad yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y Cyngor yn berchen ar ran o’r safle.

 

Dywedodd y Rheolwr Cynllunio – Amgylchedd Adeiledig a Naturiol bod y cais ar gyfer Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith dymchwel rhannol ac estyniadau yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric W Jones fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K P Hughes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  FPL/2021/108 – Cais llawn ar gyfer troi’r adeilad allanol yn annedd fforddiadwy ynghyd a’i addasu a’i ymestyn yn Fedw Uchaf, Brynrefail, Dulas

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Rhys Davies, a oedd yn siarad o blaid y cais, fod y cais ar gyfer trosi adeilad  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12