Datblygiad tai dros 10 uned – Tir ger Stad Ddiwydiannol Pentraeth.
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo bwrw ymlaen i ddatblygu tai cyngor newydd o 10 uned ar dir ger Ystâd Ddiwydiannol Pentraeth.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Tai sy'n ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i symud ymlaen i ddatblygu 10 o unedau tai ar dir ger Ystâd Ddiwydiannol Pentraeth i'w ystyried.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor Gwaith bod y safle wedi'i leoli ger Ystâd Ddiwydiannol Pentraeth a bod caniatâd cynllunio llawn wedi’i roi ym mis Medi, 2021 ar gyfer 23 o dai newydd fel rhan o ddatblygiad dan arweiniad Cymdeithas Tai Clwyd Alyn. Mae Clwyd Alyn yn un o dair cymdeithas dai weithredol sy'n adeiladu tai fforddiadwy ar yr Ynys. Lle bo'n bosibl, mae'r Awdurdod yn ceisio gweithio mewn partneriaeth â darparwyr tai eraill ac yn yr achos hwn mae wedi cael cynnig 10 o'r 23 eiddo ar y safle gan roi cyfle i gynnig rhai o'r eiddo newydd i'w gwerthu i brynwyr tro cyntaf lleol drwy gydberchnogaeth a/neu rentu ar rent canolraddol. Bydd y tai'n cael eu hadeiladu ar sail egwyddorion cynaliadwy a byddant yn effeithlon iawn o ran ynni. Fel rhan o'r broses gynllunio, dangosodd gwybodaeth a ddarparwyd gan y datblygwr fod 37 o ymgeiswyr am dai ym Mhentraeth ar restr aros y Cyngor ac mae 7 arall ar restr tai fforddiadwy Tai Teg. Bydd yr eiddo yma, y bydd deg ohonynt yn enw'r Cyngor, yn cyfrannu at ateb y galw am dai yn yr ardal. Caiff y datblygiad ei ariannu'n rhannol drwy grant gan Llywodraeth Cymru ac yn rhannol drwy'r Cyfrif Refeniw Tai. Mae'r model ariannol a fabwysiadwyd gan yr Awdurdod i asesu hyfywedd ariannol cynlluniau datblygu tai yn dangos bod y cynllun a'r costau cysylltiedig yn hyfyw ac yn cydymffurfio â chanllawiau'r Awdurdod ar ddatblygu tai newydd.
Penderfynwyd cymeradwyo bwrw ymlaen i ddatblygu tai cyngor newydd o 10 uned ar dir ger Ystâd Ddiwydiannol Pentraeth.