4 Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 384 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod rhwng mis Rhagfyr 2021 a mis Gorffennaf 2022, fel y’i cyflwynwyd, gan nodi fod y Flaen Raglen Waith yn cael ei diweddaru bob mis a’i chyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith fel eitem sefydlog.
Cofnodion:
Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru ar gyfer y cyfnod o fis Rhagfyr 2021 i fis Gorffennaf 2022. Amlygodd y Rheolwr Polisi'r newidiadau a ganlyn :-
· Eitemau newydd ar y Flaen Raglen Waith
· Eitem 4 – Strategaeth Ddigidol Ysgolion ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 13 Rhagfyr 2021.
· Eitem 9 – Rhenti Tai y CRT a Thaliadau’r Gwasanaethau Tai 2022/23 ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror 2022.
Eitemau Cyllideb 2022/23 (dyddiadau i’w cadarnhau, yn ddibynnol ar amserlen Llywodraeth Cymru):-
· Eitem 17 – Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys 2022/23
· Eitemau 18 i 21 – Eitemau’n ymwneud â Ffioedd a Thaliadau
· Eitem 23 – Strategaeth Cyfalaf a Rhaglen Gyfalaf
· Eitem 24 – Cyllideb Gyfalaf 2022/2023
· Eitem 4 - Strategaeth Ddigidol Ysgolion ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 13 Rhagfyr 2021.
Eitemau sydd wedi cael eu haildrefnu
· Eitem 12 – Polisi Cynnal Ffyrdd a Rheoli Asedau – wedi ei symud o fis Rhagfyr 2021 i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror 2022.
Eitem newydd i’w gynnwys ar Flaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith
· Sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarth Gogledd Cymru ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 13 Rhagfyr 2021.
Penderfynwyd cymeradwyo’r flaen raglen waith wedi’i diweddaru ar gyfer y cyfnod o fis Rhagfyr 2021 i fis Gorffennaf 2022, fel y’i cyflwynwyd, gan nodi bod y Flaen Raglen Waith yn cael ei diweddaru’n fisol a’i chyflwyno fel eitem sefydlog yn fisol i’r Pwyllgor Gwaith.