Mater - cyfarfodydd

Welsh Language Promotion Strategy 2021-2016

Cyfarfod: 29/11/2021 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 6)

6 Strategaeth Hybu’r Gymraeg 2021-2026 pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

·      Cymeradwyo cyhoeddi Strategaeth Iaith Gymraeg 2016-21: Adroddiad Asesu (drafft) ar y wefan gorfforaethol.

·           Argymell i’r Cyngor Llawn y dylid cymeradwyo Strategaeth Hybu’r Gymraeg 2021-26 (drafft) ac awdurdodi’r swyddogion perthnasol i wneud unrhyw adolygu pellach o’r strategaeth ddrafft cyn ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor dim hwyrach na 31 Rhagfyr 2021.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Strategaeth Hybu’r Gymraeg 2021-2026 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer yr Iaith Gymraeg ei bod yn ofynnol i’r Awdurdod baratoi strategaeth hybu’r Gymraeg. Pwrpas strategaeth o’r fath yw amlinellu sut mae’r Cyngor yn bwriadu hybu’r iaith a hwyluso ei defnydd ehangach ar Ynys Môn. Ychwanegodd ei bod yn bwysig nodi mai strategaeth dros dro yw Strategaeth Hybu’r Gymraeg 2021-2026 a bod paratoi dogfen o’r fath yn her oherwydd diffyg data cyfredol ynghylch sefyllfa’r iaith Gymraeg ar Ynys Môn. Dywedodd hefyd fod y Strategaeth Hybu’r Gymraeg 2021-2026 (drafft) yn adeiladu ar sylfeini’r strategaeth gyntaf a’i bod yn mabwysiadu meysydd targed a blaenoriaethau cyson h.y. plant, pobl ifanc a’r teulu; y gweithle, gwasanaethau Cymraeg a’r seilwaith; a’r gymuned.  Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer yr Iaith Gymraeg bod cynllun gweithredu ar gyfer y flwyddyn gyntaf wedi’i ymgorffori yn y Strategaeth a bydd Fforwm Iaith Ynys Môn yn gyfrifol am fonitro cynnydd y cynllun gweithredu. Bydd crynodeb o weithrediad y strategaeth yn cael ei gynnwys hefyd yn yr adroddiad blynyddol ar y Safonau Iaith Gymraeg. Nododd bod y Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn ddiweddar ac ymgynghorwyd ar y Strategaeth gan dderbyn 30 o ymatebion.

 

Yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, dywedodd y Rheolwr Sgriwtini fod y Pwyllgor, yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2021, wedi gofyn a oedd unrhyw risgiau neu bryderon penodol ynghylch sefyllfa’r iaith Gymraeg ar Ynys Môn. Cafwyd rhai sylwadau yn nodi bod craffu ar y Strategaeth yn her a gofynnwyd a fyddai’r strategaeth yn llwyddiannus ai peidio oherwydd diffyg data cyfredol. Gofynnwyd a fyddai modd i’r Strategaeth annog ac ymgorffori defnydd o’r iaith Gymraeg yn y sector preifat. Mynegwyd pryderon bod canran y siaradwyr Cymraeg ar yr Ynys wedi gostwng a bod y niferoedd yn parhau i fod ar yr un lefel ag yr oeddent yn y 1950au, ynghyd â’r effaith y gallai hynny ei gael ar y gymuned ac ar ddyfodol yr iaith Gymraeg. Nododd fod y Pwyllgor Partneriaeth ac Adfywio’n cefnogi’r argymhellion yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd –

 

·        Cymeradwyo cyhoeddi’r ddogfen Strategaeth Iaith Gymraeg 2016-21: Adroddiad Asesu (drafft) ar y wefan gorfforaethol.

·        Argymell i’r Cyngor Llawn y dylid cymeradwyo’r Strategaeth Hybu’r Gymraeg 2021-26 (drafft) ac awdurdodi’r swyddogion perthnasol i wneud unrhyw adolygiadau pellach o’r strategaeth ddrafft cyn ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn dim hwyrach na 31 Rhagfyr 2021.