12 Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032 PDF 2 MB
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol:-
· Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032.
· Diffiniad o rôl y Cydlynwyr Iaith Dalgylch.
· Awdurdodi Swyddogion perthnasol, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio, i gwblhau unrhyw adolygiadau pellach o’r strategaeth ddrafft.
Cofnodion:
Phobl Ifanc yn ymgorffori Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant bod Adran 84 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol baratoi Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA). Pwrpas y rheoliadau hyn yw gwella cyfleoedd i awdurdodau lleol gynllunio darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cefnogi disgwyliadau o ran twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn awr ac yn y dyfodol. Bydd gwella’r ffordd y caiff addysg cyfrwng Cymraeg ei chynllunio hefyd yn cyfrannu at gyflawni’r uchelgais genedlaethol hirdymor i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mai’r cynllun yw’r weledigaeth ar gyfer addysg Gymraeg ac addysg ddwyieithog dros y deg mlynedd nesaf. Mae’r cynllun yn rhoi lle canolog i’r dysgwr ac yn ystyried taith a phrofiad yr holl ddysgwyr yn ystod eu taith addysgol. Mae Cynllun y Gymraeg mewn Addysg Ynys Môn yn ategu ac yn cefnogi strategaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 trwy weithio’n strategol ag ysgolion, partneriaid a strwythurau CSGA i sicrhau bob pob unigolyn yn derbyn cyfleoedd yn ystod eu haddysg i ddysgu a defnyddio’r iaith Gymraeg.
Yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, dywedodd y Rheolwr Sgriwtini bod y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio wedi gofyn, yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2021, a fyddai modd addasu’r CSGA gan ei fod yn gynllun 10 mlynedd. Cyfeiriwyd at yr her yn y sector uwchradd i ddenu athrawon sy’n gallu addysgu pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg a mynegwyd pryderon bod canran y pynciau a addysgir trwy gyfrwng y Gymraeg yn 34.8%. Gofynnwyd hefyd beth oedd y prif heriau yn y dyfodol o ran sefyllfa’r iaith Gymraeg mewn addysg ar lefel leol. Nododd bod y Pwyllgor Sgriwtini a Phartneriaeth yn argymell cymeradwyo Cynllun y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032.
Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –
· Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032.
· Diffiniad o rôl y Cydlynwyr Iaith Dalgylchol.
· Awdurdodi Swyddogion Perthnasol, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio, i gwblhau unrhyw adolygiadau pellach o’r strategaeth ddrafft.