Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring Report – Quarter 2, 2021/22

Cyfarfod: 29/11/2021 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 7)

7 Monitro Cyllideb Refeniw - Chwarter 2, 2021/22 pdf eicon PDF 850 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

·         Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yn hyn a’r alldro a ragwelir ar gyfer 2021/22. Mae’r sefyllfa’n ddibynnol ar dderbyn cymorth parhaus gan Lywodraeth Cymru i gyllido’r golled ariannol a’r costau ychwanegol sy’n wynebu’r Cyngor yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol o ganlyniad i’r Coronafeirws.

·         Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2021/22 fel y manylir arnynt yn Atodiad C yr adroddiad.

  • Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad CH yr adroddiad.

·        Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2021/22 yn Atodiadau D a DD yr adroddiad.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 2 blwyddyn ariannol 2021/22.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid y dylid nodi bod darogan y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn ar ddiwedd Chwarter 2 yn anodd a gall y sefyllfa newid yn sylweddol wrth i weddill y flwyddyn fynd rhagddi. Y sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelir ar gyfer 2021/22, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa’r Dreth Gyngor, yw tanwariant o £1.529m, sydd yn cyfateb i 1.04% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2021/22. Fodd bynnag, gallai cynnydd mewn costau, gan gynnwys dyfarniad cyflog posib o fwy na’r 1.75% a gynhwyswyd yn y rhagolwg, a chynnydd posib yn y galw am wasanaethau yn ystod ail hanner y flwyddyn, ostwng y sefyllfa refeniw derfynol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid ei fod yn dymuno rhoi sicrwydd na fydd yr Awdurdod yn gorfodi ysgolion i gyllido cynnydd yng nghyflogau athrawon o’u cyllidebau fel y gwelwyd mewn awdurdodau lleol eraill. Esboniodd i’r Pwyllgor Gwaith beth yw’r risgiau ariannol yn ystod ail hanner y flwyddyn ariannol fel y nodwyd ym mharagraff 10 yr atodiad i’r adroddiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod ansicrwydd ynghylch y sefyllfa ariannol yn ystod yr ail chwarter eleni oherwydd y pandemig, chwyddiant a chodiadau cyflog, ynghyd â’r gwasanaethau plant a digartrefedd. Cyfeiriodd at Dabl 9 yn yr adroddiad – Cyllid Grant Covid-19 Llywodraeth Cymru – hawliwyd £2.7m hyd at fis Hydref 2021 ac mae LlC wedi talu dros £2m. Hawliwyd swm ychwanegol o £700m hefyd a disgwylir penderfyniad gan LlC ynghylch y swm hwn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid, bod y Panel, wrth ystyried yr adroddiad, yn teimlo ei fod yn ddatganiad clir a hunanesboniadol o’r sefyllfa yn Chwarter 2 ac roedd y Panel yn nodi ac yn croesawu’r perfformiad cadarnhaol.

 

Penderfynwyd –

 

·        Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2021/22. Mae’r sefyllfa’n ddibynnol ar gymorth parhaus gan Lywodraeth Cymru i gyllido’r golled ariannol a’r costau ychwanegol sy’n wynebu’r Cyngor yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol o ganlyniad i’r Coronafeirws.

·        Nodi’r crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2021/22 fel y manylir arnynt yn Atodiad C yr adroddiad.

·        Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â’r rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad CH yr adroddiad.

·        Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2021/22 yn Atodiadau D a DD.