9 Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai – Chwarter 2, 2021/22 PDF 316 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd nodi’r canlynol –
· Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 2 2021/22.
· Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2021/22.
Cofnodion:
Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 2 2021/22.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid ei bod yn bwysig nodi bod y CRT wedi’i glustnodi ac ni ellir trosglwyddo ei gronfeydd wrth gefn i’r Gronfa Gyffredinol.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y pandemig wedi effeithio ar allu’r Cyngor i brynu hen dai cyngor ac wedi arwain at oedi yn y rhaglen adeiladu tai newydd oherwydd oedi a phrinder deunyddiau. Ar ddiwedd Chwarter 2, roedd gorwariant o £363k yn y CRT o gymharu â’r gyllideb a broffiliwyd. Mae gwariant cyfalaf £1,518k yn is na’r gyllideb a broffiliwyd.
Penderfynwyd nodi’r canlynol –
· Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 2 2021/22.
· Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2021/22.