Mater - cyfarfodydd

Council Tax Base 2022/23

Cyfarfod: 29/11/2021 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 10)

10 Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer 2022/23 pdf eicon PDF 383 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

·           Nodi cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 fydd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i gyfrifo’r Grant Cymorth Refeniw ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn ariannol 2022/23, sef 31,079.93 (Rhan E6 o Atodiad A yr adroddiad).

·           Cymeradwyo’r cyfrifiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 at ddibenion pennu Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer yr ardal gyfan a rhannau ohoni am y flwyddyn 2022/23 (Rhan E5 o Atodiad A yr adroddiad)

·           Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) 1995, fel y cawsant eu diwygio gan SI1999/2935, a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) a’r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2016, y cyfansymiau y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cyfrifo fel sylfaen y dreth am y flwyddyn 2022/23 yw 32,042.00, ac fel y nodir yn nhabl 3 yr adroddiad ar gyfer y rhannau o’r ardal a restrir ynddo.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mewn perthynas â chyfrifo sylfaen y dreth ar gyfer 2021/22.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y cyfrifiadau wedi’u gwneud yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Anheddau’r Dreth Gyngor (CT1v.1.0) 2022/23 yn seiliedig ar nifer yr eiddo yn y gwahanol fandiau ar y rhestr brisio ar 31 Hydref 2021 ac a grynhoir gan yr Awdurdod o dan Adran 22b (7) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Mae’r cyfrifiadau yn cymryd i ystyriaeth gostyngiadau, eithriadau a phremiymau, yn ogystal â newidiadau i’r rhestr brisio sy’n debygol yn 2022/23. Cyfanswm y sylfaen arfaethedig ar gyfer 2022/23 at ddiben pennu’r dreth yw 31,079.93. Mae hyn yn cymharu â 30,880.22 ar gyfer 2021/22 ac mae’n gynnydd o 0.65%.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod y cyfrifiadau yn Atodiad A yr adroddiad yn seiliedig ar gadarnhau gostyngiad o ddim ar gyfer Dosbarthiadau A, B ac C; premiwm o 100% ar dai gwag tymor hir a phremiwm o 50% ar ail gartrefi ar gyfer 2022/23, yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor Gwaith ar 25 Hydref 2021 i gynyddu’r premiwm ar ail gartrefi.

 

Penderfynwyd –

 

·                    Nodi cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151, fydd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i gyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn ariannol 2022/23, sef 31,079.93 (Rhan E6 yn Atodiad A yr adroddiad).

·                    Cymeradwyo’r cyfrifiad at ddiben pennu Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 am y cyfan o’r ardal ac am rannau ohoni am y flwyddyn 2022/23 (Rhan E5 yn Atodiad A yr adroddiad).

·                    Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995 (SI19956/2561) fel y’u diwygiwyd gan SI1999/2935 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) a Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) (Diwygiad) 2004 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) (Diwygiad) 2016, y cyfansymiau y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cyfrif fel Sylfaen y Dreth am 2022/23 yw 32,042.00 ac fel y nodir yn nhabl 3 yr adroddiad am y rhannau hynny o’r ardal a restrir ynddo.