13 Datganiad Polisi Gamblo 2022-2025 PDF 757 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn mabwysiadu’r Datganiad o Bolisi Gamblo ar gyfer 2022-25.
Cofnodion:
Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei fabwysiadu, adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, yn ymgorffori’r Datganiad o Bolisi Gamblo 2022-2025.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd bod rhaid i’r Cyngor, o dan Ddeddf Gamblo 2005, fabwysiadu Datganiad o Bolisi Gamblo bob tair blynedd. Mae’r Polisi hwn yn nodi sut fydd y Cyngor yn cyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â rheoleiddio sefydliadau gamblo.
Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn mabwysiadu’r Datganiad o Bolisi Gamblo.