13.1 – FPL/2020/191 – Rallt Gwta, Niwbwrch
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000Mj6qgUAB/fpl2020191?language=cy
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
13.1 – Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Rallt Gwta, Niwbwrch
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
13.1 FPL/2020/101 – Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Rallt Gwta, Niwbwrch, Llanfairpwllgwyngyll
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi cael ei gymeradwyo yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Ebrill 2021, gydag amodau, ac yn amodol hefyd ar gwblhau cytundeb cyfreithiol yn gofyn am symud a rhoi’r gorau i ddefnyddio carafán a chynwysyddion a oedd ar y safle.
Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod rhaid symud y garafán a’r cynhwysyddion oddi ar y tir fel rhan o’r caniatâd, er mwyn sicrhau na fyddai’r datblygiad yn cael effaith andwyol ar fwynderau preswyl eiddo gerllaw’r safle neu ar fwynderau’r ardal ehangach a’r AHNE. Mae’r garafán a’r cynwysyddion wedi cael eu symud oddi ar y safle erbyn hyn felly nid oes angen cytundeb, ac o ganlyniad gellir rhyddhau’r penderfyniad yn ddarostyngedig i amodau.
Wrth gadarnhau adroddiad y Swyddog, gofynnodd y Cynghorydd Bryan Owen, Aelod Lleol, i’r Pwyllgor gymeradwyo’r cais.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch sut all yr Awdurdod fod yn sicr na fydd y garafán a’r cynwysyddion yn cael eu symud yn ôl ar y safle, dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod cynllun y datblygiad yn dangos y bydd yr annedd arfaethedig yn cael ei leoli ar safle’r garafán a bod y mynediad i’r safle’n croesi’r man lle’r arferai’r cynwysyddion sefyll. Felly, pan fydd y cynnig wedi cael ei weithredu a’r annedd wedi cael ei adeiladu, ni fydd yn bosib dod â’r garafán a’r cynwysyddion yn ôl ar y safle. Fodd bynnag, pe byddent yn ailymddangos ar y safle heb ganiatâd yn y cyfamser, yna byddai camau’n cael eu hystyried bryd hynny i ddelio â’r sefyllfa.
Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad.