Mater - cyfarfodydd

Development Proposals Submitted by Councillors and Officers

Cyfarfod: 01/12/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 11)

11 Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 1 MB

11.1 – LUE/2021/19 – Bodlawen, Llanidan, Brynsiencyn

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000O2tOFUAZ/lue202119?language=cy

 

11.2 – FPL/2021/136 – Wylfa, Ffordd Bangor, Benllech

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKf7JUAT/fpl2021136?language=cy

 

11.3 – FPL/2021/248 – Parciau, Llanddaniel

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000O3aEMUAZ/fpl2021248?language=cy

 

11.4 – MAH/2021/19 – Parciau, Llanddaniel

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000O3aOIUAZ/mah202119?language=cy

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

11.1  LUE/2021/19 – Cais am Dystysgrif Datblygu Cyfreithlon ar gyfer defnydd presennol yr annedd a gymeradwywyd o dan 37C53A/DA yn groes i'w ganiatâd cynllunio a'i amodau cyn cychwyn ac amodau eraill yn Bodlawen, Llanidan, Brynsiencyn.

 

Penderfynwyd caniatau’r cais am Dystysgrif Datblygu Cyfreithlon ar gyfer defnydd presennol y datblygiad yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog.

 

11.2  FPL/2021/136 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr adeilad allanol i llety gwyliau ynghyd a'i addasu ac ehangu yn Wylfa, Ffordd Bangor, Benllech.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a nodwyd. 

 

11.3  FPL/2021/248 – Cais llawn ar gyfer gosod tanc septig ynghyd â ffos gerrig ar dir ger Parciau, Llanddaniel.

 

Penderfynwyd caniatau’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodwyd. 

 

11.4  MAH/2021/19 – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatád cynllunio FPL/2020/73 er mwyn diwygio ffenestri’r anecs a gosod paneli solar yn Parciau, Llanddaniel.

 

Penderfynwyd caniatau’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodwyd. 

 

Cofnodion:

11.1 LUE/2021/19 – Cais am Dystysgrif Datblygu Cyfreithlon ar gyfer defnydd presennol yr annedd a gymeradwywyd o dan 37C53A/DA yn groes i’w ganiatâd cynllunio a’i amodau cyn cychwyn ac amodau eraill yn Bodlawen, Llanidan, Brynsiencyn

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am fod yr ymgeiswyr yn perthyn i Aelod Lleol.

Ar ôl datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â’r cais, gadawodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y cyfarfod ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth na’r bleidlais ar y cais.

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais yn cael ei gyflwyno o dan adran 191(1) Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd) ar gyfer Tystystgrif Cyfreithlondeb Defnydd neu Ddatblygiad sy’n Bodoli. Mae’r cais yn ceisio sefydlu cyfreithlondeb annedd sydd yn groes i’r caniatad cynllunio a roddwyd a nifer o’r amodau a osodwyd ar y caniatâd materion a gadwyd yn ôl. Y prif fater yw a ydi’r dystiolaeth a gyflwynwyd fel rhan o’r cais, yn ôl pwysau tebygolrwydd, yn ddigonol ai peidio, a bod baich y prawf wedi’i gyflawni. Gyda cheisiadau o’r fath, nid yw polisïau cynllunio’n berthnasol i ganlyniad y cais ac felly dylid penderfynu ar y cais yn unol â’r dystiolaeth a gyflwynwyd. Rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer codi annedd yn 1989 ac yn dilyn hynny rhoddwyd caniatâd gydag amodau i’r materion a gadwyd yn ôl yn 1990. Wedi asesu’r hanes cynllunio, nid ymddengys y cyflwynwyd gwybodaeth i’r Awdurdod Cynllunio Lleol mewn ymgais i ryddhau’r amodau. Ystyrir hefyd na chafodd y datblygiad ei adeiladu yn unol â gofynion yr amodau. Honnir na chafodd y datblyigad ei adeiladu yn unol â’r caniatâd a roddwyd a bod amodau 1, 2, 3, 7 ac 8 wedi cael eu torri am dros 10 mlynedd yn ddi-dor ac, o’r herwydd, bod gan yr ymgeiswyr hawl i dystysgrif gan nad oes modd gorfodi’r amodau mwyach. Mae’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn honni bod gwaith wedi cychwyn ym mis Tachwedd 1990 a bod yr eiddo wedi’i feddiannu gyntaf ym mis Hydref 2000. Mae adran Gyfreithiol yr Awdurdod, ar ôl ymgynghori â nhw ynghylch y cais, wedi dod i’r casgliad bod yr amodau, yn ôl pwysau tebygolrwydd, wedi cael eu torri am dros 20 mlynedd. Mae Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn gosod terfynau amser ar gyfer cymryd camau gorfodaeth ac mae’n golygu nad oes modd cymryd camau gorfodaeth ar ddiwedd cyfnod o 4 blynedd o’r dyddiad pan gwblhawyd y gwaith ac mewn perthynas ag unrhyw achos arall o dorri rheolaeth cynllunio (ac eithrio datblygiad gweithredol neu newid defnydd adeilad i annedd sengl), y terfyn amser yw diwedd cyfnod o 10 mlynedd o ddyddiad torri unrhyw reol cynllunio. Felly i gloi, ymddengys yn ôl pwysau tebygolrwydd na chafodd y datblygiad ei gyflawni yn unol â’r caniatâd a rhai amodau. Gan fod y datblyigad wedi’i gwblhau tua 20 mlynedd yn ôl, mae’n golygu na ellir cymryd unrhyw gamau gorfodaeth mewn perthynas â’r amodau yn awr a bod gan yr ymgeiswyr hawl i dderbyn tystysgrif yn cadarnhau cyfreithlondeb y datblygiad. Felly,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11