Mater - cyfarfodydd

The Executive's Forward Work Programme

Cyfarfod: 24/01/2022 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 5)

5 Blaen Raglen y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 389 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid (a Phennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith, ar gyfer y cyfnod o Chwefror tan Medi, 2022 gyda’r newid ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei hystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Chwefror i Medi 2022 a thynnwyd sylw at y newidiadau a ganlyn –

 

·         Eitem 2 – Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach 2020/21 sydd yn eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror 2022.

·         Eitem 6 – Polisi Cynnal Ffyrdd a Rheoli Asedau Priffyrdd fydd yn cael ei haildrefnu gyda’r  dyddiad i’w gadarnhau.

·         Eitemau 8 – 18 (sy’n ymwneud â gosod y gyllideb a monitro’r gyllideb) a gadarnhawyd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth 2022.

·         Eitem 23 – Asesiad o Anghenion y Boblogaeth: Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fydd yn cael ei symud o gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror 2022 i’w gyfarfod ar 21 Mawrth 2022.

·         Eitem 36 i 38 – Adroddiadau Monitro Perfformiad Chwarterol sydd yn eitemau newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis Medi 2022.

·         Eitem 39 – Adroddiad Cynnydd: Rhaglen Wella’r Gwasanaethau Cymdeithasol sydd hefyd yn eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis Medi 2022.

·         Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 – gweithredu trefniadau – eitem newydd sydd ddim ar y rhaglen waith a gyhoeddwyd ond y mae cais i’w chynnwys ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror.

 

Penderfynwyd cadarnhau blaen raglen waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Chwefror i Medi 2022 gyda’r newid ychwanegol y cyfeiriwyd ato yn y cyfarfod.