Mater - cyfarfodydd

Shared Equity Policy

Cyfarfod: 24/01/2022 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 8)

8 Ymateb i'r Her Dai - Polisi Rhannu Ecwiti pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo’r Polisi Rhannu Ecwiti. 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Mummery, yr Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau, adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn ymgorffori’r Polisi Rhannu Ecwiti a ddyluniwyd i gynnig cyfle i Brynwyr Tro Cyntaf gael benthyciad ecwiti i’w galluogi i brynu tŷ addas yn eu hardal leol na fyddai’n fforddiadwy iddynt fel arall.

 

Fel rhan o amrywiaeth o fentrau i gynnig tai fforddiadwy, mae’r Gwasanaethau Tai yn bwriadu cyflwyno Polisi Rhannu Ecwiti fydd yn cynorthwyo’r rhai nad ydynt yn gallu prynu eu cartref ar y farchnad agored a’r rhai nad ydynt yn gallu cael mynediad i Dai Cymdeithasol. Mae prynu cartref yn parhau i fod tu hwnt i allu nifer o brynwyr tro cyntaf oherwydd prisiau uchel eiddo o gymharu ag incwm lleol a’r blaendal angenrheidiol. Mae’r Polisi Rhannu Ecwiti yn cynorthwyo i gyflawni dau amcan a nodwyd yn Strategaeth Dai’r Gwasanaeth sef – yn gyntaf datblygu’r tai cywir ar gyfer Ynys Môn yn y dyfodol ac – yn ail, gwneud y defnydd gorau o’r stoc dai bresennol a gwella cartrefi a chymunedau, a’r weithred yw cynnig eiddo rhent cymdeithasol, rhenti canolig, hunanadeiladu a chymorth i brynwyr tro cyntaf.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod y Polisi Rhannu Ecwiti yn un o’r opsiynau y mae’r Gwasanaeth yn eu defnyddio i ymateb i’r her tai lleol ac i gynorthwyo teuluoedd lleol i gael mynediad at dai fforddiadwy i’w prynu, ac y bydd y polisi’n ehangu ystod y tai fforddiadwy y gellir eu cynnig o ran eiddo presennol ac eiddo y mae’r Cyngor yn eu hadeiladu. Ym mis Rhagfyr 2021 roedd 458 o ymgeiswyr wedi cofrestru ar gyfer eiddo fforddiadwy ar wefan Tai Teg ac roedd 260 ohonynt yn dymuno prynu eiddo fforddiadwy ar Ynys Môn.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn croesawu’r Polisi Rhannu Ecwiti fel ychwanegiad cadarnhaol at yr amrywiaeth o gynlluniau y mae’r Gwasanaethau Tai yn eu datblygu i ymateb i’r her tai lleol a hefyd fel defnydd adeiladol o Bremiwm y Dreth Gyngor sy’n cael ei ddefnyddio i ariannu’r cynlluniau hyn.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Polisi Rhannu Ecwiti.