Ymateb i'r Her Dai Lleol - Datblygiad ger Ysbysty Penrhos Stanley, Caergybi
Cyflwyno adroddoiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo datblygu 23 o dai newydd a fydd ar gael i breswylwyr lleol eu prynu neu eu rhentu mewn ymateb i’r her tai presennol ar dir ger Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Mummery, yr Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau, adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i ddatblygu 23 o dai newydd ar dir ger Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi a fydd yn cael eu cynnig fel tai fforddiadwy i drigolion lleol eu prynu neu eu rhentu mewn ymateb i’r her tai lleol.
Hysbyswyd y Pwyllgor Gwaith o leoliad a gosodiad y datblygiad arfaethedig a bod yr angen am y tai hyn yng Nghaergybi wedi’i gadarnhau gan y gofrestr tai fforddiadwy, Tai Teg. Byddai’r cynllun yn cael ei ariannu ar sail y model ariannol a ddefnyddir i asesu hyfywedd datblygiadau tai ac y mae’r Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Gwasanaethau Tai yn ei gymeradwyo ar gyfer pob datblygiad unigol, gyda’r nod o fedru adeiladu tai newydd hynod o effeithlon. Yn ddibynnol ar dderbyn caniatâd, byddai amserlen y datblygiad yn unol â’r amlinelliad cyffredinol yn yr adroddiad.
Penderfynwyd cymeradwyo’r datblygiad o 23 tŷ newydd fydd ar gael i drigolion lleol fel tai fforddiadwy i’w prynu neu eu rhentu mewn ymateb i’r her tai lleol presennol, ar dir ger Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi.