Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 12/01/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 564 KB

7.1 - FPL/2021/136 – Wylfa, Ffordd Bangor, Benllech

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKf7JUAT/fpl2021136?language=cy

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

7.1  FPL/2021/136 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr adeilad allanol i lety gwyliau ynghyd a'i addasu ac ehangu yn Wylfa, Ffordd Bangor, Benllech.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan fod y Pwyllgor o’r farn bod y datblygiad yn cydymffurfio gyda pholisïau cynllunio PCYFF 1, PCYFF 2 A PCYFF 3 ac na fyddai’n arwain at ormodedd o lety gwyliau o fewn yr ardal.

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle I Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd dros gymeradwyo’r cais).

Cofnodion:

7.1  FPL/2021/136 Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr adeilad allan yn llety gwyliau ynghyd â’i addasu a’i ehangu yn Wylfa, Ffordd Bangor, Benllech

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i “swyddog perthnasol” fel y’i diffinnir ym mharagraff 4.6.10 Cyfansoddiad y Cyngor. Mae Swyddog Monitro’r Cyngor wedi craffu ar y cais yn unol â’r gofynion o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2021, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â safle’r cais.  Cynhaliwyd ymweliad rhithwir â'r safle ar 15 Rhagfyr, 2021. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Margaret M Roberts, Aelod Lleol, fod y cais ar gyfer troi adeilad allan yng nghefn yr eiddo yn llety gwyliau un ystafell wely.  Dywedodd ei bod yn amlwg yn yr ymweliad safle rhithwir y bydd yr adeilad allan yn mynd yn adfail os nad oes gwaith yn cael ei wneud ar yr adeilad allan.  Mae lleoliad yr adeilad allanol o fewn cwrtil yr ymgeiswyr ac mae digon o le parcio i ddarparu ar gyfer datblygiad o'r fath.  Nid yw'r Awdurdod Priffyrdd lleol wedi cyflwyno unrhyw wrthwynebiad i'r datblygiad.  Dywedodd y Cynghorydd Roberts fod ceisiadau am unedau gwyliau mawr wedi cael eu cyflwyno yn yr ardal dros y blynyddoedd diwethaf. Gofynnodd i'r Pwyllgor gymeradwyo'r cais hwn gan mai llety gwyliau un uned oedd hon gan breswylydd lleol. 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod polisi cynllunio TWR 2 o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn ymwneud â llety gwyliau.  Cyfeiriodd at Faen Prawf v - sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r cynnig beidio ag arwain at orddarpariaeth o lety o'r fath yn yr ardal.  At hynny, nod adran 4.6 o Ganllawiau Cynllunio Atodol Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid yw diffinio'r mater o orddarpariaeth ac mae paragraff 4.6.1 yn datgan y gall nifer uchel o lety gwyliau neu ddarpariaeth o lety gwyliau mewn ardal benodol gael effaith andwyol ar wead cymdeithasol cymunedau.  Cyfeiriodd ymhellach at Baragraff 4.6.5 y cyfeiriwyd ato yn adroddiad y Swyddog.  Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio hefyd at y data diweddaraf am y Dreth Gyngor sy'n dangos bod cyfran yr ail gartrefi a'r llety gwyliau hunanarlwyo yn ardal Cyngor Cymuned Llanfair Mathafarn Eithaf yn 18.47%, sy'n uwch na'r trothwy o 15%.  Cydnabyddir y gall rhai amgylchiadau eithriadol godi lle mae manteision amlwg i ganiatáu llety gwyliau mewn ardal sydd eisoes â nifer uchel o lety gwyliau ac ail gartrefi y tu hwnt i'r trothwy o 15%; mae'r achosion eithriadol hyn yn cynnwys: Menter sy'n gysylltiedig ag arallgyfeirio gwledig a chynnig a fyddai'n golygu cadw a gwneud defnydd amgen o adeilad rhestredig o werth hanesyddol.   Nid yw'r un o'r rhain yn berthnasol i'r cais hwn, o ganlyniad ystyrir felly y byddai'r cynnig yn arwain at or-ddarpariaeth o lety gwyliau yn yr ardal ac o ganlyniad nid yw'r cynnig yn cyd-fynd â darpariaethau polisi TWR 2 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.   Yr argymhelliad yw gwrthod y cais gan y byddai'n arwain at or-ddarpariaeth o lety gwyliau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7