Mater - cyfarfodydd

Departure Applications

Cyfarfod: 12/01/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 10)

10 Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 326 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

10.1  VAR/2021/39 - Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (09)(Cynlluniau Caniatáu) o ganiatâd cynllunio rhif 29C39D (adnewyddu trosi adeiladau allanol yn 4 uned wyliau) er mwyn caniatáu lle teuluol ychwanegol i unedau Ym Mhenmynydd, Llanfwrog, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Cofnodion:

10.1  VAR/2021/39 – Cais o dan Adran 73A am amrywio amod (09) (Cynlluniau Cymeradwy) caniatâd cynllunio sydd â'r cyfeirnod 29C39D (adnewyddu addasu adeiladau allan yn i 4 uned wyliau) er mwyn caniatáu lle ychwanegol i deuluoedd i unedau ym Mhenmynydd, Llanfwrog, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu ei gymeradwyo. 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yr egwyddor o ddatblygu'r safle eisoes wedi'i sefydlu o dan gyfeirnod cais cynllunio 29C39B lle rhoddwyd caniatâd i adnewyddu caniatâd cynllunio 29C39B ar gyfer addasu adeiladau allan yn 4 uned wyliau ynghyd ag adeiladu mynediad i gerbydau a chreu safle trin carthion preifat ynghyd â diwygio amod (04) o ganiatâd cynllunio 29C39B i ganiatáu preswylio llawn amser yn y 4 uned a ganiatawyd yn flaenorol fel anheddau.  Barnwyd bod cais am dystysgrif defnydd arfaethedig yn gyfreithlon lle cadarnhaodd yr ymgeisydd fod y gwaith wedi dechrau ar y safle ac felly'n diogelu'r cyfeirnod caniatâd cynllunio 29C39D.  Nododd hefyd fod Polisi TAI 7 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn nodi mai dim ond at ddefnydd cyflogaeth y caniateir addasu adeiladau traddodiadol at ddefnydd preswyl, os nad yw hyn yn opsiwn, gallai'r datblygiad ddarparu uned fforddiadwy fel y nodir yn adroddiad y Swyddog.  Mae'r newidiadau a gynigir ar gyfer codi estyniad bach i bob un o'r 4 annedd preswyl, sy'n mesur 3m x 4m, yn amrywio o 3.9 m i 4.4m o uchder oherwydd lefelau llawr amrywiol.  Mae'r ddau estyniad ar ddrychiad gorllewinol un o'r adeiladau allan a addaswyd tra bod y ddau estyniad arall ar ddrychiad deheuol yr ail adeilad allan a addaswyd.  Mae'r arwynebedd llawr y ddau adeilad allan presennol yn mesur cyfanswm o 462 metr sgwâr gyda chyfanswm arwynebedd llawr y 4 estyniad yn mesur cyfanswm o 48 metr sgwâr sy'n llai na 10% o gynnydd yng nghyfanswm arwynebedd y llawr.  Yr argymhelliad oedd cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r cais ac eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a geir yn yr adroddiad ysgrifenedig.