12 Gweddill y Ceisiadau PDF 5 MB
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 VAR/2021/38 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amodau 15 a 16 o ganiatâd cynllunio rhif APP45-36 (caniatâd ar apêl) (adeiladu 15 tyrbin gwynt ar dir yn Nhrysglwyn Fawr, Rhosybol) er mwyn ymestyn cyfnod gweithredol y 14 tyrbin sydd wedi ei adeiladu ar y safle am gyfnod pellach o 10 mlynedd hyd at 29.6.31, ymestyn y cyfnod lle mae angen dadgomisiynu y fferm ynghyd ag ymestyn y cyfnod o orfod tynnu twrbin oddi ar y safle os ddim yn cynhyrchu trydan am gyfnod i'r grid lleol yn Fferm Wynt Trysglwyn, Rhosybol.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac i
ddileu Amod 1.
12.2 FPL/2021/298 –Cais llawn ar gyfer newid defnydd Lolfa Gymunedol i fod yn fflat preswyl llawr gwaelod ynghyd ag addasiadau a gosod paneli solar yn Lolfa Gymunedol St Seiriol, St Seiriols Close, Caergybi.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac i ddileu Amod 1.
12.3 FPL/2021/299 –Cais llawn am newid defnydd o lolfa gymunedol i greu eiddo preswyl ynghyd a gwaith cysylltiedig Bryn Tirion Biwmares
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac i ddileu Amod 1.
12.4 FPL/2021/285 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd y lolfa gymunedol bresennol i mewn i uned breswyl yn Gerddi Stanley, Biwmares
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac i ddileu Amod 1.
12.5 FPL/2021/297 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd y lolfa gymunedol bresennol i mewn i uned breswyl newydd yn Lolfa Gymunedol Tre Rhosyr, Niwbwrch
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac i ddileu Amod 1.
12.6 MAO/2021/32 -Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio FPL/2019/258 er mwyn diwygio gorffeniad rendr allanol o arw i lyfn yng Nghlwb Cymdeithasol Biwmares, Steeple Lane, Biwmares.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac i ddileu Amod 1.
12.7 DIS/2021/101 – Cais i ryddhau amod (04) (Manyleb rhaglen o waith archeolegol ) o ganiatâd cynllunio CAC/2019/3: Cais Ardal Gadwraeth ar gyfer dymchwel adeilad presennol ynghyd a chodi chwech fflat un ystafell wely yn ei le yng Nghlwb Cymdeithasol Biwmares, Steeple Lane, Biwmares.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ac i ddileu Amod 1.
12.8 DIS/2021/102 - Cais i ryddhau amodau (03) (draenio dŵr budr), (05) (Cynllun Rheoli Traffic Adeiladu), (07) (manylion gwaith dymchwel), (08) (manylion ffenestri) ac (11) (cynllun tai fforddiadwy) o ganiatâd cynllunio FPL/2019/258 (dymchwel yr adeilad presennol a chodi chwech fflat un ystafell wely) ynn Nghlwb Cymdeithasol Biwmares, Steeple Lane, Biwmares.
PENDERFYNWYD :-
· Rhyddhau amodau (05), (07) ac (11) yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn yr adroddiad ysgrifenedig;
· Dirprwyo’r pŵer i’r Swyddogion i ryddhau amodau (8) a ... view the full Penderfyniad text for item 12
Cofnodion:
12.1 VAR/2021/38 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amodau 15 ac 16 o'r cyfeirnod caniatâd cynllunio APP45-36 (caniatâd ar apêl) a ganiataodd adeiladu 15 tyrbin gwynt ar dir yn Nhrysglwyn Fawr, Rhosybol) er mwyn ymestyn cyfnod gweithredol 14 o dyrbinau a adeiladwyd ar y safle am gyfnod pellach o 10 mlynedd hyd at 29.6.31, ymestyn y cyfnod lle mae angen dadgomisiynu'r fferm yn ogystal ag ymestyn y cyfnod o orfod tynnu tyrbin oddi ar y safle os nad yw'n cynhyrchu trydan i'r grid lleol yn Fferm Wynt Trysglwyn, Rhosybol
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod atodiad Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol yn cyd-fynd â'r cais. Mae'n ofynnol cyflwyno'r cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion i'w benderfynu yn unol â pharagraff 3.5.3.5(ii) o'r Cyfansoddiad.
Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai'r cais yw ymestyn cyfnod gweithredol y fferm wynt o 10 mlynedd i 25 mlynedd, 35 mlynedd o'r pwynt cynhyrchu cyntaf a fydd yn dod i ben ar 29 Mehefin 2031. Mae'r ymgeisydd wedi cyflwyno'r cais mewn ymdrech i wneud y mwyaf o botensial cynhyrchu’r fferm wynt; er bod oes y fferm wynt wedi'i phennu'n wreiddiol am 25 mlynedd, os caiff tyrbinau eu cynnal yn briodol gallant weithredu y tu hwnt i'r cyfnod y dyluniwyd hwy’n wreiddiol a chyfrannu at gyrraedd targedau a chyflenwi pŵer adnewyddadwy heb y gofyniad i gael eu hailbweru. Mae amod 15 o'r penderfyniad apêl yn ei gwneud yn ofynnol, os bydd unrhyw dyrbin gwynt yn methu â chynhyrchu trydan a gyflenwir i'r grid lleol am gyfnod parhaus o 6 mis, y bydd y tyrbin hwnnw ynghyd ag unrhyw offer ategol yn cael ei ddatgymalu i’r ddaear a'i symud o'r safle a bydd y safle'n cael ei adfer at
ddefnydd amaethyddol o fewn 3 mis. Mae'r cais yn bwriadu cynyddu'r cyfnod cyn y bydd tyrbin gwynt yn cael ei ddatgomisiynu os yw'n methu â chynhyrchu trydan parhaus o 3 i 9 mis. Mae amod 16 o'r penderfyniad apêl yn ei gwneud yn ofynnol i'r tyrbinau gael eu symud o'r safle o fewn 6 mis i'r tyrbinau gael eu dadgomisiynu a rhoi’r gorau i’w defnyddio. Mae'r cais hefyd yn bwriadu ymestyn y cyfnod datgomisiynu o 6 i 12 mis, sy'n cyd-fynd â chaniatâd ailbweru tebyg diweddar ar Fferm Wynt Rhyd y Groes. Nid oes unrhyw waith adeiladu ychwanegol yn cael ei gynnig gan fod modd ddefnyddio'r holl seilwaith presennol wrth ymestyn oes y datblygiad. Fodd bynnag, byddai ymestyn y caniatâd yn gofyn am waith cynnal a chadw parhaus ac o bosibl ychwanegol, wrth i'r cyfarpar fynd yn hŷn. Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ymhellach fod polisïau'r Cynllun Datblygu Cenedlaethol a Lleol yn rhoi arweiniad ar geisiadau o'r fath. Er bod pwyslais y dylid annog ynni adnewyddadwy, ni ddylai datblygiadau arfaethedig niweidio'r ardal gyfagos, safleoedd dynodedig ac eiddo cyfagos sy'n bodoli eisoes. Dywedodd hefyd fod yr Awdurdod Cynllunio wedi asesu'r cais mewn perthynas â'r effeithiau ar y dirwedd, ecoleg, traffig a thrafnidiaeth, amwynderau eiddo cyfagos a manteision economaidd-gymdeithasol.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12