2 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 392 KB
Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd, 2021.
Penderfyniad:
Ar sail yr uchod [h.y. cyngor a roddwyd], penderfynwyd cymeradwyo gweddill y cofnodion o’r cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd, 2021.
Cofnodion:
Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol yPwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd, 2021 a chadarnhawyd eu bod yn gywir yn amodol ar y canlynol –
Yn codi – Cynllun Trosiannol Eitem 5
Cynigiodd y Cynghorydd Gary Pritchard y dylid diwygio'r cofnodion i gynnwys cofnod o'r sylwadau a wnaed ar ddiwedd y drafodaeth ar yr eitem uchod ar bwnc Cartrefi Grŵp Bach y Cyngor (Cartrefi Clyd) a'u hailgyflwyno i'r cyfarfod nesaf.
Ar gais y Cadeirydd a ddywedodd ei fod yn credu bod yr holl faterion o bwys wedi'u cynnwys yn y cofnodion a'u bod yn unol â'r confensiwn o ran cofnodion eraill y Cyngor, dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth Dros Dro (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro y dylid ymdrin â'r mater mewn dwy ran sef cymeradwyo gweddill y cofnodion (ac eithrio'r gwelliant arfaethedig), ac ymdrin â’r mater o gywirdeb o ran diwygio’r cofnod ar gyfer y cyfarfod nesaf ar wahân; byddai hyn yn caniatáu i'r cyfarfod hwn symud ymlaen i'r busnes nesaf gyda'r cafeat hwnnw.
Ar sail yr uchod, penderfynwyd cymeradwyo gweddill cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd, 2021.