4 Datganiad ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2022/23 PDF 1 MB
Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Penderfyniad:
Penderfynwyd derbyn a nodi’r Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2022/23 ac i anfon y Datganiad ymlaen i’r Pwyllgor Gwaith heb unrhyw sylwadau pellach.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2022/23 i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2022/23 yn cynnwys y cynnwys y Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol, y Datganiad ar y Polisi Darpariaeth Refeniw Isaf Blynyddol, y Datganiad ar y Polisi Rheoli Trysorlys a’r cynlluniau cyfalaf a Dangosyddion Darbodus cysylltiedig.
Mae’r Strategaeth Rheoli Trysorlys yn amlinellu strategaeth y Cyngor o ran benthyciadau a buddsoddiadau sy’n dilyn ymlaen o’r Strategaeth Gyfalaf, sy’n nodi’r cyfyngiadau ar fenthyca, yn pennu cyfres o ddangosyddion darbodus i sicrhau bod cynlluniau cyfalaf y Cyngor yn fforddiadwy ac yn penderfynu archwaeth risg a strategaeth y Cyngor mewn perthynas â rheoli ei fuddsoddiadau. Mae’r elfennau hyn yn ymdrin â’r gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol.
Yn y bôn mae’r Strategaeth ar gyfer 2022/23 yn delio â dau brif faes - materion cyfalaf a materion rheoli trysorlys ac mae’n ystyried y ffactorau allweddol mewn perthynas â phob maes a’r modd y maent yn llunio’r strategaeth a dull Rheoli Trysorlys.
Wrth gyflwyno’r adroddiad cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 nad oes newidiadau’n cael eu cynnig i’r egwyddorion craidd yn Natganiad 2021/22 ac amlygodd y canlynol –
· Y cefndir economaidd (ynghlwm yn Atodiad 3) a’r rhagolygon cyfradd llog hyd at fis Mawrth 2025 a’r goblygiadau i’r Strategaeth Rheoli Trysorlys.
· Y rhaglen gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2022/23 i 2024/25 fel y nodir yn nabl 3 yn yr adroddiad yn cynnwys gwariant cyfalaf arfaethedig, sut y caiff ei gyllido a’r balansau a fydd yn cael eu hariannu drwy fenthyca dros y tair blynedd.
· Effaith cynlluniau gwariant cyfalaf y Cyngor a’r Ddarpariaeth Refeniw Isaf (DRI) ar Ofyniad Cyllido Cyfalaf y Cyngor (GCC) a lefel y benthyca allanol a mewnol fel y nodir yn Nhabl 4 yn yr adroddiad sy’n rhagweld cynnydd mewn benthyca allanol dros y tair blynedd nesaf ond sydd yn dal i fod oddi mewn i’r paramedrau derbyniol.
· Mae’r strategaeth fenthyca yn cadarnhau sefyllfa o dan-fenthyca ar hyn o bryd ac mae angen mabwysiadu dull bragmatig i ymateb i amgylchiadau sy’n newid h.y. os teimlir bod risg sylweddol o gwymp sydyn yn y cyfraddau tymor byr a thymor hir yna bydd benthyciadau tymor hir yn cael eu gohirio, ac ystyrir newid o gyllido cyfradd sefydlog i fenthyca tymor byr os bydd yn gost-effeithiol i wneud hynny. I’r gwrthwyneb, os teimlir bod risg sylweddol o gynnydd llawer uwch yn y cyfraddau tymor hir a thymor byr nag a ragwelir ar hyn o bryd, yna byddai sefyllfa’r portffolio yn cael ei hailasesu.
· Agwedd y Cyngor tuag at fenthyca ymlaen llaw i gwrdd â’i anghenion sy’n cadarnhau nad yw’r Cyngor yn benthyca dim ond er mwyn elwa o fuddsoddi’r symiau ychwanegol a fenthycir. Wrth benderfynu a ddylid benthyca cyn bod angen gwneud hynny, bydd y Cyngor yn ystyried y ffactorau a nodir ym mharagraff 7.4.2 yn yr adroddiad yn ofalus.
· Mae’n annhebygol y gellir aildrefnu benthyciadau gan fod gwahaniaeth mawr iawn o hyd rhwng ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4