11 Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 722 KB
11.1 – MAH/2022/1 – 37 Penlon, Porthaethwy
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000QcyTuUAJ/mah20221?language=cy
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
11.1 MAH/2022/1 - Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan caniatâd cynllunio HHP/2021/315 (Addasu ac Ehangu) er mwyn diwygio dyluniad arfaethedig yn 37 Penlon, Porthaethwy
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
11.1 MAH/2022/1 – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio HHP/2021/315 (Addasu ac Ehangu) er mwyn diwygio dyluniad arfaethedig yn 37 Penlon, Porthaethwy
(Ar ôl datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y cais, ni chymerodd y Cynghorydd Robin Williams ran yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth na’r bleidlais mae o law).
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn 'swyddog perthnasol' fel y'i diffinnir ym mharagraff 4.6.10 o'r Cyfansoddiad. Mae'r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 o'r Cyfansoddiad.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais ar gyfer mân ddiwygiadau i'r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio HHP/2021/315. Y gwelliannau a gynigir yw newid edrychiad gwydr y ddau ddrws gwydr ar y drychiad Deheuol; cael gwared ar ddrws presennol y gegin a chau’r bwlch yn hytrach na gosod gwydr uchder llawn yn y
Blwch a gwneud y ffenestr bresennol yn llai, sydd bellach yn y lolfa, lleihau maint y llusern arfaethedig a newid y drysau deublyg arfaethedig i ddrysau llithro. Ystyrir bod y newidiadau yn rhai ansylweddol. Ni fyddai graddfa’r newid arfaethedig yn cael effaith sy’n wahanol i’r hyn a achosir gan y caniatâd gwreiddiol. Ni fyddai’r cynnig yn arwain at effaith andwyol naill
ai’n weledol nac o ran amwynder lleol, ni fyddai’n creu anfantais i drydydd parti ac ni fyddai’r cynnig yn gwrthdaro â pholisïau cenedlaethol neu bolisïau’r cynllun datblygu. Ystyrir bod y cais yn ansylweddol ac felly ei fod yn cael ei gymeradwyo o dan Adran 96A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Yr argymhelliad yw bod y cais yn cael ei gymeradwyo, rhoi awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaeth ychwanegu at, dileu neu newid/amrywio unrhyw amod(au) cyn rhoi’r caniatâd cynllunio.
Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid cymeradwyo'r cais ac eiliodd y Cynghorydd K P Hughes y cynnig.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.